DAVIES, STEPHEN (bu farw 1794), atgyfodwr achos y Bedyddwyr yn nhref Caerfyrddin ar ôl diflaniad y gynulleidfa gyntaf yn y 17eg ganrif.

Enw: Stephen Davies
Dyddiad marw: 1794
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: atgyfodwr achos y Bedyddwyr yn nhref Caerfyrddin ar ôl diflaniad y gynulleidfa gyntaf yn y 17eg ganrif.
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Trwy lafur Enoch Francis yr oedd cangen o eglwys Fedyddiedig Castellnewydd Emlyn wedi plwyfo yn Ffynnonhenri (Llanpumpsaint); ac yr oedd mab-yng-nghyfraith i Enoch Francis, sef Stephen Davies, yn aelod ynddi. Yn 1757, cymerodd ef dŷ annedd yn Heol-y-prior, Caerfyrddin, i bregethu 'n achlysurol ynddo, gan fod nifer o aelodau'r Ffynnon yn byw yn y dref. Yn 1765, daeth i fyw i'r dref a chadw siop lieiniau yn Heol Awst; ac yn 1768 (Joshua Thomas, Hist. Bapt. Assoc., 62) corfforwyd y Ffynnon a Heol-y-prior yn un eglwys. Yn 1775, dymunai rhai urddo Stephen Davies yn gydweinidog, ond yr oedd cymaint gwrthwynebiad nes i'r eglwys ymrannu. Aeth gwrthwynebwyr Davies i addoli i'r hen Briordy — dyma'r gynulleidfa a ddaeth wedyn yn eglwys y Porth Tywyll, sy'n awr yn y Tabernacl. Daliodd Davies a'i blaid eu gafael ar yr hen aelwyd yn Heol-y-prior, gyda'r Tŷ Coch ym mhlwyf Llangynog, ac urddo Davies yn weinidog; ond nid cyn 1778 (Joshua Thomas, op. cit., 67) y rhoes y gymanfa'r hawl iddynt i ymgorffori. Codwyd capel yn Heol-y-prior yn 1786 — dyma eglwys Penuel heddiw. Yn 1792, fodd bynnag, diarddelwyd Davies gan ei eglwys — dywed rhai (J.T. J., i, 112) mai am iddo fethu yn ei fasnach; credai David Jones (Bed. Deheubarth, 444) mai yn herwydd anghydfod ynghylch yr arian a gasglwyd at godi'r capel. Haws yw credu (D. Jones, op. cit., 443) mai gwrthdaro personol oedd yma: tystia ei gydweinidog gynt, Daniel Davies o'r Felin-foel, ei fod yn ddyn da, ond o dymer anhyblyg — chwanega ei fod o gorff cryf, yn wych ei ddillad ac yn powdro'i berwig, ‘yn ŵr cyfrifol yn y byd ac o ymddygiad boneddigaidd.’ Nid dibwys chwaith, efallai, yn wyneb yr hyn a ddigwyddodd yn Heol-y-prior yn 1799, yw'r awgrym a roddir gan Richards o Lynn (gweler Traf. Cymd. Hanes Bed., 1930, 35-6) o wahaniaethau diwinyddol yno. Bu Stephen Davies farw yn 1794, a chladdwyd ym mynwent Ffynnonhenri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/