Ganwyd 24 Ebrill 1756 yn Bwlchmelyn, Cenarth. Wedi gwasnaethu ar ffermydd yn y cylch aeth i Cynwyl i gynorthwyo Hywel Hywels, barcer, am gyfnod. Pan yn 15 oed dysgodd wau, a bu'n, gweithio mewn ffatrïoedd yng Nghynwyl, Ffynnonhenri (lle y bedyddiwyd ef), ac Eglwyswrw. Dechreuodd bregethu yn 1780 yn Ffynnonhenri, priododd yn 1782, a chartrefodd yn Dolwen, Cynwyl. Urddwyd ef a Nathaniel Williams ym Mehefin 1785 yn weinidogion Ffynnonhenri. Bu'n selog fel cenhadwr yng Ngogledd Gymru yn ystod y pedair blynedd nesaf. Yn 1791 ymsefydlodd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Felinfoel lle y bu farw 16 Ebrill 1837.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.