WILLIAMS, NATHANIEL (1742 - 1826), gweinidog gyda'r Bedyddwyr (Neilltuol a Chyffredinol), dadleuydd diwinyddol, emynydd, a meddyg gwlad

Enw: Nathaniel Williams
Dyddiad geni: 1742
Dyddiad marw: 1826
Plentyn: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr (Neilltuol a Chyffredinol), dadleuydd diwinyddol, emynydd, a meddyg gwlad
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Brodor o blwyf Llanwinio (Caerfyrddin). Annibynnwr oedd ef ar y cychwyn, ond ymunodd wedyn ag eglwys y Bedyddwyr yn Salem, Meidrym, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn 1777 golygodd ail argraffiad o drosiad rhywun o bregeth gan Whitefield, Ynghylch Rhodio gyda Duw, gydag 'Ychydig o Hymnau' ganddo ef ei hun. Daeth i amlygrwydd mawr ymhlith y Bedyddwyr yn 1778, pan gyhoeddodd Dialogus, llyfr na chydweddai â Thrindodiaeth Athanasius, eithr a awgryma'n hytrach mai tair agwedd weithredol (neu 'oeconomaidd') ar yr un hanfod dwyfol, ac nid tri 'pherson,' ydyw'r Drindod - golygiad a bwysleisir ymhellach yn yr 'Anerchiad' ar flaen ei Ychydig o Hymnau Newyddion, 1787, gyda datganiad er hynny ei fod yn credu yn Nuwdod a Mabolaeth Grist. Datganodd cymanfa'r Bedyddwyr (Glynceiriog, 1779) ei hanghymeradwyaeth o'r Dialogus (Joshua Thomas, A History of the Baptist Association in Wales, 68).

Yn ôl Joshua Thomas (Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry, 574), nid oedd Williams yn dderbyniol erbyn hyn yn Salem, ac aeth oddi yno i eglwys Heol-y-prior, Caerfyrddin; cysylltir ei enw yn y blynyddoedd dilynol a'r clwm o achosion o gwmpas Ffynnonhenri. Dywed David Jones (Bed. Deheubarth, 496) mai efe a bregethodd gyntaf yng Nghwmfelinfynach, a hwylio at godi addoldy yno, ond bod eglwys Rhydwilym wedi ymyrryd â'r cynllun, ac iddo yntau ymado. Cafodd urddau yn Ffynnonhenri yn 1785, ond ymddengys mai i bregethu a gweinyddu'n deithiol y bu hynny, ac nid i ofalaeth unrhyw eglwys unigol. Ymddangosodd llyfr meddygol ganddo, Darllen Dwfr a Meddyginiaeth, yn 1785.

Yn y blynyddoedd nesaf (Spinther, iii, 241-2), ymunodd â'r genhadaeth yn sir Fôn, gan bregethu (a meddyga) yno hyd tua 1790 (yr oedd yno i sicrwydd yn 1788), pan ddychwelodd i'w gynefin. Erbyn hyn, yr oedd yr helynt ynghylch Peter Williams yn corddi, ac yn 1791 ymddangosodd llyfr di-enw, Dialogous [sic], yn amddiffyn Peter Williams; priodolwyd hwn i Peter Williams ei hunan (yn hynod annhebyg), i William Williams o Aberteifi a William Richards o Lynn, ac i Nathaniel Williams, a rhydd J. J. Evans (Morgan Rhys, 148-50) resymau cryfion dros gredu mai'r diwethaf sydd debycaf.

Cyhoeddodd Nathaniel Williams yn 1796, yng ngwasg Trefeca, Pharmacopoeia, or Medical Admonitions in English and Welsh … The Second Part (tebyg mai llyfr 1785 oedd y 'rhan gyntaf'); yn 1797 (Trefeca eto) Pregeth a Bregethwyd yn Llangloffan ar Neilltuad … Joseph James a James Davies (yr oedd Joseph James beth bynnag o gyffelyb feddwl i Williams); ac yn 1798 adargraffiad, gyda chwanegiadau, o bamffled William Williams o Aberteifi, Sylwadau ar y Dirywiaeth mewn Pregethu a Chanu … Pan ddaeth rhwyg 1799, bu'n rhaid i Nathaniel Williams gefnu ar y Bedyddwyr Neilltuol - awgrymog yw'r ffaith na chafodd erioed bregethu mewn cynifer ag un o'u cymanfaoedd. Noda'r Monthly Repository, 1806, 610, iddo bregethu yng nghymanfa'r Bedyddwyr Cyffredinol yn Abertawe, fis Mai 1806, ond mai pregethwr teithiol oedd. Darganfu'r Parch T. Oswald Williams ei fod ynglŷn â Bedyddwyr Cyffredinol Castellnewydd Emlyn yn 1816-7 - sylwer fodd bynnag mai gweinidogion a ymchwelodd at y Bedyddwyr Neilltuol oedd y ddau arall a enwir yn yr un cofnod, sef Joseph James (uchod) ac Evan Evans. Nid oes yn wir unrhyw brawf i'w olygiadau diwinyddol symud ymhellach 'i'r aswy' na'r safle a gymerodd ef yn 1787: nid oedd yn aelod o'r Gymdeithas Ddwyfundodaidd yn 1802; nid ymddengys ei enw gynifer ag unwaith yn adroddiadau'r Monthly Repository o gynadleddau'r Undodiaid nac o gydgynadleddau'r Undodiaid a'r Bedyddwyr Cyffredinol (nac yn wir o gynadleddau'r Bedyddwyr Cyffredinol ar wahân, ond yn 1806 yn unig). Gellir tybied, ar waethaf ei allu, nad oedd yn pwyso'n drwm ymhlith ei frodyr, 'uniongred' nac 'anuniongred' - mai ' maen treigl na fâg fwswgl' ydoedd. Dywedir iddo ddiweddu ei oes mewn dinodedd a thlodi.

Erbyn heddiw, prin y cofir ef ond fel awdur emynau (Shankland yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1922), rai ohonynt mor dda nes eu cambriodoli'n ddiweddarach i Ann Griffiths. Bu farw mewn bwthyn yn Llanfyrnach (Sir Benfro), 28 Rhagfyr 1826, 'yn 84 oed' meddai carreg ei fedd ym mynwent y Bedyddwyr yn Hermon yno; tystia'r garreg ei fod yn 'Minister of the Gospel to Jeneral [sic] Baptism.' Adargraffwyd ei ddau lyfryn meddygol gan T. Price, Merthyr Tydfil, 1835 a 1839.

Mab iddo oedd y baledwr 'Twmi Nathaniel.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.