Ganwyd yn 1732 yn y Dre-fach, Llanfair Nantglyn, Sir Benfro, yn fab i William ac Anne Williams; yr oedd ei dad yn ustus heddwch ac yn perthyn i amryw o uchelwyr y cyffiniau, a'i stad yn werth £1,600 y flwyddyn. Bu farw ei rieni cyn iddo fod yn fwy na chwe mlwydd oed, ond gofalwyd amdano gan ymddiriedolwyr, a chafodd ysgolion da; ond ni wyddys yn wir ddim am ei hanes nes iddo yn 19 oed briodi ag un o Boweniaid Llwyn-gwair, Nanhyfer. Bu farw ei wraig ymhen y flwyddyn, ac aeth yntau dan brofiadau dwys; ar ddiwedd Rhagfyr 1753 sgrifennodd 'gyfamod' a welir yn llyfr David Jones. Tueddwyd ef at y Bedyddwyr (Eglwyswr ydoedd o'i fagwraeth), a bedyddiwyd ef yng Nghilfowyr yn 1760; wrth ei fedyddio, datganodd na chredai mewn arddodiad dwylo, ond ei fod yn fodlon dygymod ar y pryd â'r ddefod. Dechreuodd bregethu yn 1762. Yn 1766, cododd dadl boeth yn yr eglwys ar arddodiad; ymadawodd gwrthwynebwyr y ddefod (ac yntau yn eu plith), a ffurfio eglwys ar wahân, a gafodd ganiatâd eglwys Blaen-y-waun i ddefnyddio'r capel hwnnw ddau Sul o bob mis; pan fu farw eu gweinidog, urddasant William Williams yn weinidog arnynt - sgrifennodd yntau femorandwm i'r gymanfa yn amddiffyn eu safiad, a chyhoeddodd hefyd (yn 1770) bregeth ar y pwnc, a draddodasai yn 1769. Yn 1768, yr oedd yr eglwys newydd wedi symud i gapel (Ebeneser) a godwyd ar dir y Dre-fach. Priododd Williams yr eilwaith ond bu farw'r ail wraig hefyd. Poenid ef yn Ebeneser gan rai o'i aelodau, a ganai ac a orfoleddai yn y dull Methodistaidd, a diarddelodd hwy. Ymddengys iddo sgrifennu ar gân ar y 'penboethni' hwn, a bernir mai ef oedd y 'gŵr bonheddig' y sgrifennodd Williams Pantycelyn ei ateb iddo, yn 1784, am ' geisio prydyddu senn i'r yspryd,' ailgydiodd yntau yn y pwnc mewn pamffled Saesneg, a gyfieithwyd (gyda chwanegiadau), gan M. J. Rhys yn 1794, dan y teitl Sylwadau ar y Dirywiaeth mewn Pregethu a Chanu yng Nghymru, er bod Rhys wedi gwrthod ei argraffu yn y Cylchgrawn Cymraeg y flwyddyn cynt; argraffwyd ef eto, gyda chwanegiadau gan Nathaniel Williams, yn 1798. Nid yw'r ddadl yn ddibwys, oblegid yr oedd hi'n un amlygiad o'r ymddieithriad rhwng William Williams (a'i gyfeillion a enwyd) a'r blaid (fuddugoliaethus) uchel-Galfinaidd a lled-Fethodistaidd ymhlith Bedyddwyr y de-orllewin. Yn eironig ddigon, ni wnaeth unrhyw un amgylchiad fwy i gryfhau dwylo'r blaid honno na llwyddiant anghymharol cenhadaeth y Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru (1776), cenhadaeth yr oedd William Williams nid yn unig (gyda Thomas Llewelyn a Joshua Thomas) yn un o'i chychwynwyr ond hefyd yn drysorydd a threfnydd iddi.
Tua 1774, symudodd i dref Aberteifi i fyw; eto y Dre-fach a ystyrid ganddo'n hendref ar hyd ei fywyd. Sefydlodd eglwys i'r Bedyddwyr yn y dre, yn 1775-6, ac un arall yn 1797 yn y Ferwig ychydig y tu allan iddi. Yr oedd yn ustus heddwch yn siroedd Penfro a Cheredigion a hefyd ym mwrdeisdref Aberteifi; cyfeirir yn fynych gan sgrifenwyr cyfoes at y ffaith hon, a dywed rhai ohonynt y byddai'n gadeirydd y frawdlys chwarterol (efallai mai yn y fwrdeisdref); geilw William Richards o Lynn ef yn ' Deputy Lieutenant.' Naturiol fu i ymchwilwyr diweddarach amau hyn, gan gofio am y ' Test Act ' a gadwai Ymneilltuwyr oddi ar y meinciau heddwch - cynigia eraill yr esboniad ei fod yn ustus er pan oedd yn Eglwyswr, a bod ei gyd-ustusiaid wedi ymatal rhag aflonyddu arno. Tebycach mai'r ' Indemnity Acts ' a gadwodd ei ben. Oblegid gwelodd B. Rees (isod) gofnod ei 'dyngu i mewn' yng Ngheredigion, ac yn 1772, ymhell ar ôl iddo droi'n Fedyddiwr, y bu hynny. A thystia cofnodion brawdlysoedd chwarterol Penfro a Cheredigion (a gedwir yn Ll.G.C.) i'w bresenoldeb ar y ddwy fainc. Y mae'n rhaid cofio ei gyfoeth, ei fonedd, a'i gyfathrach drwy berthynas a phriodasau ag uchelwyr ei fro. Nid difudd i'w gyd- Ymneilltuwyr fu ei safle, pan dorrodd rhyfel 1793. Yn 1792 yr oedd wedi cefnogi cynllun M. J. Rhys i ddosbarthu Beiblau yn Ffrainc, ac yn drysorydd i'r mudiad hwnnw. Eithr yn argyfwng 1793, ef a alwodd gynhadledd o weinidogion y 'Tri Enwad' yn y gorllewin (daeth rhyw 40 ohonynt ynghyd i Gastell-newydd-Emlyn ar 13 Chwefror), ac a luniodd benderfyniad o deyrngarwch i'r Cyfansoddiad Prydeinig; cyhoeddwyd y penderfyniad, gyda 'baled' (rhif 541 yn J. H. Davies, Bibliography of Welsh Ballads; gweler hefyd Bulletin of the Board of Celtic Studies, vi, 276), na wyddys ai William Williams ei hunan a'i gwnaeth. Odid na liniarodd hyn gryn lawer ar y ddrwg-dybiaeth a amlygwyd at Ymneilltuwyr Dyfed yn 1797 ond ni sonnir gair am William Williams yn ystod yr helynt hwnnw.
Yn y cyfamser, yr oedd yr anghydfod ymysg y Bedyddwyr yn cronni. Ar ben ei wrthnaws yn erbyn 'penboethni', yr oedd Williams yn ' Drindodwr Ysgrythurol,' fel ei gyfeillion a enwyd uchod, h.y. credai mai agweddau gweithredol ar yr hanfod dwyfol, ac nid 'personau,' oedd y Drindod. Dug hyn ef i amddiffyn Beibl Peter Williams, ac yn fwy fyth ' Feibl John Cann,' gwaith Peter Williams a'r Bedyddiwr David Jones (1741? - 1792), a arweiniodd i ddiarddeliad Peter Williams gan y Methodistiaid. Cred rhai (ond heb nemor sicrwydd) mai ef a sgrifennodd y Dialogous [ sic ] a argraffwyd yn 1791. Yn 1793 cyhoeddodd yn y Cylchgrawn Cynmraeg (205-8) grynodeb o olygiadau Courmayer ar Berson Crist, yn erbyn Trindodiaeth 'uniongred' A phan ddiarddelwyd y Bedyddwyr 'anuniongred' gan gymanfa Salem Meidrym yn 1799, cyhoeddodd yntau brotest yn erbyn 'tra-awdurdod' cymanfaoedd, Gair yn ei Bryd at Lywodraethwyr y Cymanfaoedd, neu, Yspryd y y byd a'r Yspryd sydd o Dduw yn cael eu gwrthgyferbyn, gan gyffelybu 'anffaeledigrwydd y Gymanfa'i 'anffaeledigrwydd Pabyddol ' (1799; adarg. yn Ymofynydd, 1849, 201-3; crynodeb yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1930, 45-7). Odid na ragflaenwyd esgymundod William Williams yntau gan ei farwolaeth.
Yr oedd wedi priodi am y trydydd tro, yn 1784, â Dorothy Lewis, Llwyngrawys, Llangoedmor, (gweler Meyrick, Cardiganshire, am rai o'r teulu). Cafodd wyth o blant o'r briodas hon, ond un mab a thair merch a'i goroesodd. Bu farw 13 Awst 1799, 'yn 67 oed,' a chladdwyd (a'i weddw gydag ef, 1803) ym mynwent Ebeneser ar dir y Dre-fach. Nid oedd yr un o'i blant yn Fedyddwyr, ac y mae'n awgrymog mai ' William Williams, Esquire, of Trevach ' a ddodasant ar garreg fedd eu tad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.