Y mae aelodau teulu'r Boweniaid yn olrhain eu tras hyd at Wynfardd Dyfed (c. 1038). Tybir mai y cyntaf i arfer y cyfenw oedd EVAN BOWEN, Pentre Evan. Bu llawer o'r gwrywod yn siryfon Sir Benfro. Yr oedd JAMES BOWEN yn siryf yn 1622 ac yn byw yn Llwyngwair pan ymwelodd Lewys Dwnn â gogledd sir Benfro yn 1591; priododd ef Elenor, merch John Griffith, mab Syr William Griffith, Penrhyn, Sir Gaernarfon. Rhydd Thomas Nicholas rai manylion am wahanol aelodau'r teulu yn ei Annals of the … County Families of Wales (1872); gweler hefyd lyfrau cyffelyb sydd yn rhoddi achau y prif deuluoedd.
Cyfrifir GEORGE BOWEN (1722 - 1810) yn ' Ymneilltuwr Eglwysig ' oblegid ei gysylltiad â John Wesley, David Jones (Llangan), ac eraill. Mab hynaf James Bowen a'i wraig Alice, merch Robert Rowe, ydoedd George Bowen. Priododd ef Easter, merch William Thomas, Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, a bu iddynt chwe mab a chwe merch; daeth un o'r merched, sef Anne, yn wraig y Parch. David Griffiths, Nanhyfer. Aelwyd Llwyngwair oedd carreg lamu John Wesley ar ei deithiau i Iwerddon ac yn ôl. Byddai David Jones (Langan) yn cyflawni llawer gorchwyl dros Bowen yn Llundain - trefnu materion ariannol a chwilio am yr ysgolion gorau i anfon plant Bowen iddynt. Bu Bowen yn siryf sir Benfro yn 1803. Cyn hynny bu'n cynorthwyo i gasglu milwyr adeg cyffro glaniad y Ffrancod yn Abergwaun (1797). Yr oedd yn feistr-tir da, a dywed Richard Fenton ac eraill mai ar ystad Llwyngwair y defnyddiwyd marl am y tro cyntaf yng ngogledd sir Benfro er achlesu'r tir; anogai Bowen ei denantiaid hefyd i gasglu gwymon; dywedir iddo ddefnyddio peiriant i falu esgyrn i'w gymysgu â'r marl a'r gwymon. Bu farw 16 Mehefin 1810 a'i gladdu yn Nanhyfer.
Bu JAMES BEVAN BOWEN (1828 - 1905) yn siryf yn 1862 ac yn aelod seneddol y sir, 1866-8. Ei fab hynaf ef oedd Syr GEORGE BOWEN (1858 - 1940). Priododd, 1882, Florence, unig ferch Frederick Corbyn, meddyg gyda'r fyddin yn India. Bu iddynt un mab - Air Commodore J. B. Bowen, Berry Hill, Trefdraeth, a phum merch. Cafodd Syr George ei addysg yn ysgol Cheltenham ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Bu'n amlwg a gweithgar yn mywyd cyhoeddus y sir: yn siryf (1914), yn gadeirydd y cyngor sir (1927); gwnaethpwyd ef yn K.B.E. ar ôl rhyfel 1914-1918, ac yn arbennig am ei wasanaeth i amaethyddiaeth. Bu cysylltiad agos rhyngddo ac arglwyddiaeth Mars y Cemaes; yr oedd hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Bu farw 3 Gorffennaf 1940 a chladdwyd ef yn eglwys Nanhyfer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.