GRIFFITHS, DAVID (1756-1834), clerigwr Methodistaidd

Enw: David Griffiths
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1834
Priod: Anne Griffiths (née Bowen)
Rhiant: John Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn y Felinwlân, Llanbedr Efelffre, Sir Benfro, mab John Griffiths. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Penfro a phenodwyd ef, c. 1774, yn athro preifat yn nheulu Bowen, Llwyn-gwair, Nanhyfer, lle daeth i gyswllt â rhai o brif arweinwyr y Methodistiaid. Priododd ferch hynaf ei noddwr. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan esgob Tyddewi, 16 Hydref 1779, ac yn offeiriad, 2 Medi 1780; sefydlwyd ef yn ficer Nanhyfer 2 Rhagfyr 1783, ar gyflwyniad y Goron. Yr oedd yn bregethwr huawdl, teithiodd lawer ymhlith y Methodistiaid, a mynychai eu sasiynau. Gwrthwynebodd yr ordeiniad ymhlith y Methodistiaid, a chefnodd arnynt yn 1811 gan feddiannu eu capeli yn Nanhyfer, Eglwyswrw, a Llandudoch. Cyfyngodd ei hun bellach i'w blwyf. Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr ewyllys Madam Bevan a gwnaeth lawer dros addysg ar ôl rhyddhau'r arian a ddeilliodd o'r ewyllys. Bu farw 18 Medi 1834 yn Berry Hill, Trefdraeth, a chladdwyd ef yn eglwys Nanhyfer.

JOHN GRIFFITHS, gweinidog

Brawd David Griffiths. Roedd yn un o fyfyrwyr athrofa'r arglwyddes Huntingdon yn Nhrefeca. Ordeiniwyd ef yng nghapel Spa Fields yn 1795 yn weinidog yng nghyfundeb yr arglwyddes, ond troes at yr Annibynwyr wedi hynny. Gweinidogaethodd mewn amryw fannau yn Lloegr, ond dychwelodd yn ei henaint i farw yn nhŷ ei frawd yn Llanbedr Efelffre, ac yno y claddwyd ef.

Yr oedd Josiah Thomas Jones, yr argraffydd a chyhoeddwr y Geiriadur Bywgraffyddol, yn nai i'r brodyr hyn.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.