NICHOLAS, THOMAS (1816 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr, athro coleg diwinyddol, ac awdur

Enw: Thomas Nicholas
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1879
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, athro coleg diwinyddol, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 17 Chwefror 1816 yn Nhroedyrhiw, Trefgarn, gerllaw Solfach, Sir Benfro. Bu yn y Lancashire College, Manceinion, ac yn yr Almaen (M.A., Ph.D., Prifysgol Göttingen). Gwasanaethodd fel bugail eglwys yn Stroud, swydd Gloucester, a bu am gyfnod yn Eignbrook, Henffordd. Fe'i dewiswyd yn athro llenyddiaeth y Beibl, gwyddor foesol, etc., yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1856 eithr ymddiswyddodd ac ymsefydlu yn Llundain yn 1863.

Yno, gyda Syr Hugh Owen, yr arglwydd Aberdâr 1af, y Parch. David Thomas, Stockwell, ac eraill, bu'n ddiwyd yn tynnu allan gynllun addysg uwchraddol yng Nghymru ac yn gwasnaethu, am beth amser, fel ysgrifennydd y mudiad a arweiniodd i agor coleg prifathrofaol cyntaf Cymru - yn Aberystwyth yn 1872. Cyn hynny, fodd bynnag, yr oedd Nicholas wedi anghytuno â rhai o'r hyrwyddwyr ac wedi ymddiswyddo; gweler yr hanes gan Iwan Morgan yn The College by the Sea (Aberystwyth, 1928), 257-66 yn arbennig.

Yr oedd Nicholas wedi cyhoeddi, yn 1863, lyfryn a dynnodd gryn sylw ar y pryd, sef Middle and High Class Schools, and University Education for Wales; yr oedd hefyd, sef yn 1860, wedi golygu argraffiad o Mathias Maurice, Social Religion Exemplify'd. Heblaw y rhai hyn cyhoeddodd (a) Pedigree of the English People, 1868 (am hanes y cyngaws cyfreithiol ynglyn âr llyfr hwn gweler Iwan Morgan, op. cit., a NLW MS 3097E ); (b) Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales - y mae dwy gyfrol arg. 1872 yn parhau yn llyfrau cyfeirio defnyddiol; (c) History and Antiquities of the County of Glamorgan and its Families, sef printiad ar wahân o ran o (b). Ychydig cyn ei farw yr oedd yn cywiro proflenni argraffiad Saesneg Baedeker's London. Ceir manylion ychwanegol am yrfa Nicholas yn y Nicholas MSS (NLW MSS 3091-3106 yn awr); noder e.e. NLW MS 3091B sydd yn cynnwys hanes taith bregethu o Drefgarn i Lerpwl ac yn ôl yn 1838 yng nghwmni James Evans ('Carneinion '; 1814 - 1842), a llythyrau a phapurau cyfreithiol (yn NLW MS 3106E ) yn ymwneud â Lonsdale House School, Bridgwater, ysgol yr oedd Nicholas yn gyd-bartner ynddi.

Bu farw 14 Mai 1879 yn 156 Cromwell Road, Llundain, a chladdwyd yng nghladdfa Hammersmith (gweler Edwin Poole, The illustrated history and biography of Brecknockshire , 308).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.