Ganwyd 10 Mai 1888, yn un o bedwar o blant Rachel a Gwarnant Williams, ffermwr, bardd a gŵr cyhoeddus, fferm Gwarnant, plwyf Llanwenog, Ceredigion. Cafodd ei addysg yn ysgol Cwrtnewydd ac ysgol Dafydd Evans, Cribyn (1901-02); a chael ei brentisio'n ddisgybl athro; am gyfnod o ddeng mlynedd bu'n is-athro yn ysgol Blaenau, Gors-goch, ac ysgol Cwrtnewydd. Yn 1911, ' heb awr o ysgol eilradd ' aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.A. mewn Cymraeg (dosbarth cyntaf) yn 1915, o dan yr Athro Edward Anwyl (Bywg., 12) yn ei flynyddoedd cyntaf; yn 1923 enillodd radd M.A. am draethawd ar y ' Mudiad llenyddol yng ngorllewin Cymru yn rhan fore'r ddeunawfed ganrif ynghyd â'i gysylltiadau crefyddol '. Gofalodd am Gapel y Cwm am gyfnod byr wedi gadael coleg, ac eglwysi Brondeifi a Chaeronnen am dair blynedd cyn derbyn galwad yn 1918 i fod yn weinidog swyddogol arnynt, lle'r arhosodd tan ei farw yn 1963.
Yn ystod dyddiau coleg golygodd Y Wawr, cylchgrawn myfyrwyr Cymraeg coleg Aberystwyth; bu'n olygydd Yr Ymofynnydd, cylchgrawn Cymraeg yr Undodiaid yng Nghymru, o Ionawr 1926 hyd Rhagfyr 1933, ac yn 1937 yn ystod salwch ei olynydd, y Parch. T. L. Jones; gwasanaethodd ar bwyllgor ymghynghori'r Ymofynnydd hyd ddiwedd ei oes, a chyfrannodd yn gyson iddo o dan ei enw ei hun, ' T.O.W. ', ' O ', ' Ap Gwarnant ', ' E.W.O. ', a ' Na N. ', ' Gwalch Ogwr ';, etc. Ysgrifennodd gyfres ar hanes ' Cewri'r enwad ', ' Cartrefi'r enwad ' a ' Chapeli'r enwad '; cyhoeddodd ran o'r gyfres olaf yn llyfryn poblogaidd, Hanes cynulleidfaoedd Undodaidd sir Aberteifi (1930); yn yr un cylchgrawn cyhoeddodd gyfres o ysgrifau beirniadol ar ei gyfoeswyr, ' Gwŷr blaenllaw yr enwad ', o dan y ffugenw ' Gwalch Ogwr '. Cyhoeddodd Hanes Caeronnen yn 1954, a'i gyfrol gynhwysfawr, Undodiaeth a rhyddid meddwl, yn 1963. Traddododd amryw o ddarlithiau cyhoeddus a pherfformiwyd o leiaf un o'i ddramâu, Gwyntoedd croes. Bu'n ' eisteddfoda tipynach '; cipiodd gadair eisteddfodau'r colegau ddwywaith a rhestrwyd ef ' yn uchel yng nghystadleuaeth y gadair a'r goron fwy nag unwaith '; dywed iddo ennill amryw wobrau am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac un am draethawd ar ' Ryddid meddwl yng Nghymru '. Cydnabyddid ef yn ysgolhaig ac yr oedd glendid ei iaith ystwyth yn ddiarhebol, eithr ni fu heb ei feirniadu, fel un o brif olygwyr y Perlau Moliant diwygiedig a ymddangosodd yn 1929 (gweler Ymof., 1928, 195). Er na fedrai nodyn yr oedd ' miwsig y nefoedd ' yn ei enaid, a chyfansoddodd nifer o emynau pert ac eneiniedig; nid oedd ei arddull fel emynydd yn annhebyg i Iolo Morganwg, yn enwedig pan ganai am fyd natur ac i'r plant, fel yr emynau hynny: ' Melys rhodio 'nglas y gwanwyn ', ac ' Anian wena 'nglas y dolydd '. Ef oedd prif hanesydd yr Undodiaid yng Nghymru ac ni lwyddodd neb i groniclo cymaint am y mudiad er mwyn, ys dywed, ' i'r dô sydd yn codi wybod am ein cariad at egwyddor a gwirionedd '. Fel hanesydd da mynnai fynd at ffynhonnell y ffeithiau, a chadwai feddwl agored pan na fyddai'r wybodaeth honno'n ddigonol; gwrthodai gredu fod ' y dysgedigion wedi traethu y cwbl ' am Iolo Morganwg (Ymof., 1925, 139) ac edrychai ymlaen pan gâi 'ddigon o brofion' i ddatgelu ochr arall 'Troad Allan' y Llwyn (Ymof., 1929, 111).
Yr oedd yn gawr o gorff ac argyhoeddiad a rhedai chwŷs yr un arddeliad dros ei ruddiau wrth egluro rhesymeg dadleuon ei ffydd, fel wrth fynegi'i deimlad am 'Iesu, Ffrind Pechadur'.
Ni fu mewn coleg diwinyddol fel myfyriwr, er bod lle i gredu y gwnaethai athro da pe rhoddasid cyfle iddo, fel y dymunasai, yng Ngholeg Caerfyrddin. Bu'n llywydd Cymdeithas Undodaidd deheudir Cymru am ddwy fl. (1923-5), a gwnaethpwyd ef yn aelod anrhydeddus o Gyngor Cymanfa Gyffredinol (General Assembly) ei enwad yn 1963.
Fel gŵr cyhoeddus yn ei dref, ei ardal a'i sir, bu ei wasanaeth yn gyfoethog: bu'n aelod o gyngor bwrdeistref Llanbedr (1934-63), ac yn faer yr un fwrdeistref bedair gwaith (1940-41; 1941-42; 1950-51; 1959-60); yn 1954 fe'i hanrhydeddwyd â rhyddfraint y fwrdeistref. Cynrychiolodd y fwrdeistref ar lys llywodraethwyr Coleg Prifysgol Cymru ac ar gyngor sir Aberteifi yn 1951, ond buasai'n aelod cyfetholedig o bwyllgor addysg y sir cyn hynny. Gwasanaethodd fel cadeirydd amryw bwyllgorau pan oedd yn aelod o'r cyngor sir, gan gynnwys pwyllgor lles a phwyllgor cynllunio Ceredigion, pwyllgor cynllunio cylch Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan, pwyllgor ariannol a phwrpasau eraill, pwyllgor gwirfoddol yr hen bobl, a rheolwyr ysgol uwchradd Llanbedr. Ceisiodd gael 'Ysgolion Uwchradd Aberteifi i ddysgu pob testun drwy gyfrwng y Gymraeg', a llwyddodd i sefydlu cartref henoed, 'Hafan Deg', i Lanbedr Pont Steffan a'r cylch.
Bu ei briod Daisy (ganwyd Thomas) farw 4 Mai 1965. Bu iddynt ddwy ferch. Bu ef farw yn ysbyty Caerfyrddin 21 Hydref 1965, yn 77 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.