Ganwyd Ionawr 1769 yn Undergrove, Llanbedr-Pont-Steffan, mab hynaf Thomas ac Elinor Saunders, ac ŵyr i Evan Saunders a nai i David Saunders 'I', ill dau yn bregethwyr yn Aberduar. Cafodd ei addysg mewn ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol Dafydd Jones, Dolwlff, Llanwennog, a bedyddiwyd ef gan Timothy Thomas, Aberduar, Gorffennaf 1784. Yr oedd yn aelod o deulu cefnog, ac enwir ef ymhlith bwrdeisiaid cyntaf Llanbedr-Pont-Steffan wedi'r siartr newydd yn 1814. Dechreuodd bregethu yn Aberduar yn 1796, ac ordeiniwyd ef yn gydweinidog yr eglwys, 22 Hydref 1800. Symudodd i gapel Seion, Merthyr Tydfil, 13 Gorffennaf 1815, ' heb ein cydsyniad fel eglwys ' yn ôl llyfr Aberduar (adysgrif yn NLW MS 10785C ), gan gymaint ei barch, ac yno y bwriodd weddill ei oes hyd ei farwolaeth, 4 Chwefror 1840. Claddwyd ef yng nghapel Seion. Cafodd weinidogaeth arbennig o lewyrchus ym Merthyr Tydfil, a chofnodir iddo fedyddio 510 o aelodau newyddion yn y 21 mlynedd o 1816 i 1836.
Priododd (1), 23 Mehefin 1815, Margaret Jenkins, gwraig weddw o Ddolwlff, Llanwennog, a ganed eu hunig blentyn, Thomas, 19 Awst 1816. Bu farw y fam Ebrill 1817, a chollwyd y mab yn nociau Bryste, 12 Hydref 1837, a chladdwyd Mary ei faban yntau yng nghapel Seion, 12 Medi 1837, yn 10 mis oed; (2), 9 Mehefin 1829, Catherine Joseph, gwraig weddw arall, o Ferthyr Tydfil (bu farw 1841?). Y mae ei ewyllys (dyddiwyd 29 Mawrth 1838), profwyd 30 Mawrth 1840), yn sôn am dai o'i eiddo yn Merthyr Tydfil, ac yn cyfeirio at ei wraig Catherine, ei frawd John, ei fab Thomas ('who is missing and reputed to be dead'), ei chwiorydd Mary, Sarah, Elinor, Gwen, ei chwaer arall Martha (wedi marw) a'i phlant hithau Thomas Morgan a Mary Evans, a'i nith Elinor Lloyd.
Am ei lafur llenyddol y cofir ef yn bennaf. Yr oedd yn hyddysg yn y cynganeddion, fel y dengys ei ymarferiadau a'i nodiadau yn NLW MS 3260B , a chyhoeddwyd toreth o'i waith, caeth a rhydd, megis Ychydig o Bennillion Profiadol yn cynnwys Griddfaniad Hiraethlawn Dafydd Saunders, 1815; Dwy Awdl: y gyntaf ar Elusengarwch, … yr ail, ar Farwolaeth Syr Thomas Picton, 1820; Awdl ar Fordaith yr Apostol Paul … at yr hyn yr ychwanegwyd ychydig o hymnau newyddion, 1828; a marwnadau i Samuel Breeze, Castellnewydd Emlyn, 1812; Zecharias Thomas, Aberduar (ail arg.), 1816; a Joseph Harris ('Gomer'), 1826. Drwy ymyrraeth Iolo Morganwg yn unig y llwyddwyd i gynnwys awdl Saunders i Picton yn Awen Dyfed (1822), y casgliad o gerddi nodedig eisteddfod Caerfyrddin, 1819, yn eu plith destunau'n coffáu arwr Waterloo (heb grybwyll, yn achos cynnig Saunders, ei gyfnod dadleuol fel Llywodraethwr Sifil yn Trinidad). Datgelodd Iolo mewn llythyr at Saunders iddo roi cymorth iddo i ganu'n gywir ar y mesurau caeth yn yr awdl hon yn ogystal ag eiriol ar ei ran er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys yn y cyhoeddiad, er i un o'r amodau gael eu torri drwy gynnwys enw arferol yn lle'r ffugenw gofynnol wrth ei chyflwyno i'r gystadleuaeth. Y tu hwnt i'r cyswllt seciwlar, argraffodd Joseph Harris ('Gomer') nifer o emynau Saunders yn Casgliad o Hymnau, 1821, a chadwyd eraill o'i gynhyrchion mewn tri llyfr personol yn ei law ei hun (NLW MS 791B , NLW MSS 7141-2A ). Cyhoeddodd hefyd amryw o weithiau diwinyddol, megis Sylwadau Difrifol, 1821; Sylwadau Pellach, 1822; a Rhifyn yr Ail. Sylwadau Difrifol, 1822, ar y pwnc o fedydd babanod, yn ateb i Thomas Powel, Aberhonddu; Ychydig o Nodiadau ar y Llyfryn a elwir Traethawd Byr, ac Undod a Phenaduriaeth yr un Duw y Tad, etc, gan R. Wright, 1816; a thri chyfieithiad o'r Saesneg - Traethawd ar Deyrnas Crist (o waith Abraham Booth), 1810; Traethawd ar Ddigofaint, (o waith John Fawcett), 1826; a Golwg Gyffredinol ar Feddyliau a Phrawf … am Fedydd (o waith Thomas Westlake), 1828. Cadwyd nodiadau pregethau o'i eiddo yn NLW MSS 7141-2A , llythyr, 1817, o'i eiddo yn NLW MS 7165D , ac un arall, 1807, o'r pwys mwyaf yn Cwrtmawr MS 818E , yn adrodd hanes ei genhadaeth Fedyddiedig yn Deptford (arg. yn Spinther, iv, 403-4).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.