Ganwyd yn Esgair-ithri, Caeo, 13 (neu 24?) Awst 1727, yn blentyn olaf o bump i Thomas Morgan Thomas a'i wraig Jane, gynt o'r Tŷ-hen, Caeo, ac yn frawd i Joshua Thomas, Llanllieni, a Timothy Thomas, Aberduar. Ym Maes-y-berllan y bedyddiwyd ef yn 1748, yn ystod ei brentisiaeth yn y Gelli, ond dychwelodd i ymaelodi yn y Pant Teg ar achlysur ei briodas yn 1754 â Jane (bu farw 3 Rhagfyr 1781 yn 54 oed), merch Rees Thomas, o ardal Llandysul. Ganed iddo chwech o blant, gan gynnwys David Thomas (1756 - 1840), Llwyn-y-wermwd, a fu'n gefn mawr i'r achos ym Methel (Caeo) a Bwlch-y-rhiw, a Benjamin Thomas (1761 - 1835), gweinidog Prescott, Dyfnaint (gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, vi, 276).
Dechreuodd bregethu yno yn 1757, ond yn 1762 symudodd i'r Beudyau, Caeo, i gynorthwyo Timothy ei frawd yn eglwys Aberduar a'i changhennau, a'i ordeinio yno yng ngwanwyn 1771 yn gyd-weinidog â David Saunders ' I ' a David Davies - yn gyd-weinidog oherwydd bod gwahaniaeth barn rhyngddynt ar arddodiad dwylo. Yn 1790, wedi rhai blynyddoedd o helynt a phryder blin ynglŷn â phrydles y Beudyau, symudodd i Lwyn-y-wermwd, Llan-y-crwys, ac yno y bu ei gartref hyd ei farw ar 16 Ionawr 1816 yn 89 oed. Claddwyd ef ym Mwlch-y-rhiw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.