Diacon ffyddlon a medrus yn yr eglwys Fedyddiedig yn y Coedgleision, Betws Bledrws; symudwyd yr eglwys honno i'w dŷ ef yn Aberduar ar ymadawiad Enoch Francis y gweinidog i fyw i ardal Castellnewydd Emlyn tua 1730. Dechreuodd bregethu ar farwolaeth y gweinidog yn 1740, ond bu yntau farw yn 1742.
Mab iddo, a godwyd i bregethu yn yr eglwys yn 1764 a'i ordeinio'n gyd-weinidog â Zecharias Thomas a David Davies yng ngwanwyn 1771. Ond gweinidogaeth drafferthus a gafodd yno. Sonnir am yr aelodau ym Methel, Caeo, yn diflasu arno ac yntau'n cytuno i wasnaethu'r canghennau eraill, a dywedir iddo ymuno â'r Bedyddwyr Cyffredinol, er nad oes sôn iddo gymryd gofal eglwys. Bu farw yng nghartref ei frawd Thomas Saunders yn Undergrove, Llanbedr-Pont-Steffan, 26 Ebrill 1812, yn 81 oed. Cyhoeddodd Antigraphon; neu Wrthargraphiad Sion, yn achos y Cam-achwyniad a gafodd … mewn Llyfr Newydd, a elwir Amddiffyniad o'r Eglwys Grist'nogol, yn bedyddio Plant Bychain, 1780, a Marwnad, 1791, i William Williams, Pantycelyn.
Nai iddo, a mab Thomas Saunders, oedd David Saunders 'II', gweinidog capel Seion, Merthyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.