Sefydlydd teulu Llwydiaid Leighton oedd DAVID LLOYD (bu farw 1497), mab y Syr Gruffydd Vychan a fu'n ymladd yn Agincourt ac a ddienyddiwyd yn 1447 ar gais Henry Gray, arglwydd Powys; yr oedd y teulu yn disgyn trwy Brochwel ab Aeddan o Elise, tywysog Powys. Pan fu David Lloyd farw rhannwyd ei stadau helaeth rhwng plant ei ddwy briodas, a sefydlodd y rhai hyn amryw o deuluoedd Llwydiaid Sir Drefaldwyn. O'r briodas gyntaf daeth Llwydiaid Marrington, a ddiflannodd o'r tir pan werthwyd eu stad hwynt yn 1633. Plentyn hynaf yr ail briodas oedd Humphrey Lloyd, a etifeddodd Leighton. Yr oedd ef mewn cysylltiad agos â Syr Richard Herbert (1458 - 1539) (gweler o dan Herbert, Trefaldwyn) yn y gwaith o sefydlu canolbarth Cymru o dan Deddfau Uno, ac ymunodd â Herbert i geisio, trwy betisiwn, ddiddymu'r gororau a deddf 'gavelkind'; daeth yn siryf cyntaf y sir (1541-2) ac yn un o'i haelodau seneddol cyntaf (1545-52). Dilynwyd ef fel aelod seneddol (yn 1586) gan ei fab OLIVER LLOYD ac fel siryf (yn 1601) gan ei wyr, CHARLES LLOYD. Yn 1623 (20 Awst), fodd bynnag, gwerthodd Charles Lloyd y stad, a oedd eisoes wedi ei gwystlo yn drwm i Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631) ac eraill, ac aeth ei fab, BROCHWEL LLOYD (a fu'n gyswllt â'i dad yn y gwerthu) yn filwr crwydrol ('soldier of fortune') a bu'n ymladd dros yr Is-Ellmyn ac yn y ' Bishops War '; daeth hefyd yn ' Gentleman of the Privy Chamber ' i Siarl I.
Mab i Brochwel Lloyd oedd Syr CHARLES LLOYD (c. 1602 - 1661), peiriannydd milwrol. Dysgodd ef gelf amddiffynfeydd gyda'r Is-Ellmyn, bu'n brif swyddog catrawd o wyr traed o dan Siarl I, ac ar 6 Ebrill 1639, rhoddwyd iddo, am ei oes, y swydd o brif gadfridog y peirianwyr milwrol, a chafodd ei wneuthur yn ' quarter-master-general ' yr holl amddiffynfeydd yn yr Ynysoedd Prydeinig ar gyflog o 13s. 4c. y dydd. Ar 20 Rhagfyr 1641 fe'i gwysiwyd gan y Senedd i weithredu yn y materion hyn yn y fyddin a godwyd yn erbyn y gwrthryfelwyr Gwyddelig - ar gyflog o 30s. y dydd. Eithr ymunodd â phlaid y brenin pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol; cafodd ei ddewis yn llywodraethwr Devizes, ac fe'i gwnaethpwyd yn farchog ar faes y gad (1 Tachwedd 1644). Aeth dros y môr gyda llys y brenin, ond bu farw'n gynnar wedi'r Adferiad, yn drwm mewn dyled yr aeth iddi yng ngwasanaeth y brenin - yn ofer y deisebodd ef (a'i fam a'i chwaer ar ei ôl) am gael talu cymaint o'r cyflog a oedd yn ddyledus iddo ag a fai'n ddigon i'w gadw rhag bod heb ddim yn y byd. Bu ei frawd, Syr GODFREY LLOYD, hefyd yn gwasanaethu'r Is-Ellmyn fel peiriannydd, ac ymunodd â'r llys alltud yn Brussels - (gan gael ei farnu gan y Senedd yn gynllwynwr) - a chafodd ei wneuthur yn farchog yno yn 1657. Pan fu farw ei frawd galwyd arno o wasanaeth dug Brunswick-Luneburg i lenwi swydd wag ei frawd; yn y gwaith hwnnw gwnaeth enw da iddo'i hun a buwyd yn gofyn ei gyngor ar faterion ynglyn ag amddiffynfeydd yn ystod yr argyfwng Is-Ellmynaidd yn 1667; eithr cafodd yntau gymaint o helbul â'i frawd wrth geisio cael ei gyflog. Ni wyddys pa bryd y bu farw.
Marsiandwr a gwleidyddwr oedd Syr CHARLES LLOYD (bu farw 1678?), mab David Lloyd, Moel-y-garth, a oedd yn aelod o'r Shrewsbury Drapers' Company ac yn bedwerydd mab Humphrey Lloyd, Leighton. Wedi marw John, ei frawd hyn, etifeddodd Moel-y-garth (Cegidfa) a fuasai ym meddiant y teulu o'r 13eg ganrif; yr oedd hefyd yn masnachu yn ninas Llundain ac efallai iddo fynd i'r Inner Temple ym mis Tachwedd 1657. Elisabeth, merch Owen Vaughan, Llwydiarth, un o bleidwyr mwyaf pybyr y Senedd yn Sir Drefaldwyn, oedd ei fam. Dylanwadodd y cysylltiadau ar dueddiadau Lloyd; bu'n eistedd dros sir Drefaldwyn yn nwy Senedd gyntaf y ' Protectorate ' (1654-5 a 1656-8), a thros y fwrdeisdref yn y drydedd (1659). Siaradai yn aml ac i bwrpas ar bolisi tramor, eithr oblegid ei feirniadaeth ar y Llywodraeth ataliodd Cyngor y Protector ef rhag dyfod i sesiwn gyntaf Senedd 1656. Trechwyd ef ac anfonodd yntau betisiwn yn ei gais am etholiad i Senedd y Confensiwn, eithr hyrwyddodd yr Adferiad ac fe'i gwnaethpwyd yn farwnig ar 10 Mai 1661 a'i ddewis yn siryf yn 1669. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau frenin prynodd, o blith y tiroedd a gymerwyd oddi ar iarll Powis, diroedd yn y Trallwng a'r cyffiniau, eithr heriwyd ei hawl i'r rhai hyn - a bu'r her yn llwyddiant - ar ôl yr Adferiad. Fe'i dilynwyd fel barwnigiaid gan ei fab a'i wyr - ill dau yn Charles - eithr pan fu farw'r wyr Charles Lloyd yn 1743 (buasai'n siryf yn 1706-7) daeth y teitl i'w derfyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.