HERBERT (TEULU) IEIRLL POWYS ('POWIS')

Cychwynnodd iarllaeth bresennol Powys (Herbert) yn 1674 gyda chreu WILLIAM HERBERT (c. 1626 - 1696), 3ydd barwn Powys, yn iarll; y ffurf swyddogol ar enw'r iarllaeth yw 'Powis.'

Syr EDWARD HERBERT (bu farw 23 Mawrth 1595)

(claddwyd yn y Trallwng). Prynasai Sir EDWARD HERBERT, ail fab William Herbert, iarll Penfro (y cyntaf wedi ailgreu'r iarllaeth honno), o Anne Parr, ferch Syr Thomas Parr, y Castell Coch ym Mhowys a'i arglwyddiaeth gan Edward Grey (gweler Powys, Grey, arglwyddi) yn 1587. Ymddengys fod Syr Edward yn tueddu at Babyddiaeth, a chofnodir fod ei wraig a'i blant gwrthod cydymffurfio yn 1594 (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1945, 122).

Yr oedd ei fab

WILLIAM HERBERT (1573 - 1656)

o Mary ferch Thomas Stanley, Meistr y Mint, yn aelod seneddol sir Drefaldwyn rhwng 1597 a 1629, yn aelod o'r cyngor yng Nghymru a'r gororau, yn un o'r rhai a urddwyd yn farchog pan goronwyd Iago I, ac yn siryf Maldwyn, 1613. Yn 1616 cafodd faenorau Cydewain a Cheri a bwrdeisdref a chastell Trefaldwyn yn rhodd. Gwnaethpwyd yn farwn Powys 1af yn 1629, a rhoddwyd iddo gwnstablaeth castell Maesyfed a stiwardiaeth y dref honno yn 1631. Cadwodd gastell Powys dros Siarl I, a chroesawu'r brenin ar ymweliad yno, yn ystod y Rhyfel Cartref, ond bu raid iddo ildio i Syr Thomas Myddelton, 2 Hydref 1644. Trydedd merch iarll Northumberland oedd ei wraig, Eleanor. Cadwodd ei noddwr, iarll Penfro (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1942, 70), ei ymlyniadau pabyddol rhag bod yn rhwystr iddo, ond yn ei flynyddoedd olaf ymddengys iddo ymgryfhau yn y ffydd honno, y magwyd ei blant ynddi gyda dyfalwch.

Dilynwyd ef gan yr unig fab a'i goroesodd

Syr PERCY HERBERT (c.1600 - 1667)

Fe'i urddasid yn farchog a'i wneud yn farwnig yn 1622. Yr oedd yntau ar gyngor Cymru a'r gororau, 1633. Yn 1639, ef a gasglai gyfraniadau Pabyddion Maldwyn at y rhyfel yn erbyn y Sgotiaid, ac yn y Rhyfel Cartref yr oedd yntau ar du'r brenin. Pan adferwyd y Goron, ei enw ef oedd ar ben y rhestr ym mhetisiwn Gogledd Cymru yn erbyn y rhai a fu'n gyfrifol am ddienyddio'r brenin. Cyhoeddodd Certaine Conceptions … of Sir Percy Herbert, 1652. Ei unig fab o Elizabeth Craven oedd yr iarll Powys cyntaf o'i linach.

WILLIAM HERBERT (1626 - 1696)

Edrychid ar y 3ydd BARWN POWYS yn ei ddydd fel pennaeth y bendefigaeth babyddol yn Lloegr, ac yr oedd ei wraig hefyd o'r un ffydd. Elizabeth ferch ardalydd Worcester ydoedd hi, ac yn 1654 y priododd. Bu ef yng ngharchar o 1678 i 1685 o dan ddrwgdybiaeth fod a wnelai â'r cynllwyn pabaidd. Haerasai Titus Oates mai ef oedd i fod yn brif weinidog y Goron pe llwyddasai'r cynllwyn. Llosgwyd ei gartref yn Llundain, ar gwr Lincoln's Inn, gan y dyrfa, 26 Hydref 1684. Yn sgil teyrnasiad Iago II daeth iddo ryddhad o'r profion crefyddol, a gwnaethpwyd ef yn aelod o'r Cyngor Cyfrin yn 1686. Yn 1687, dyrchafwyd ef i fod yn is-iarll Trefaldwyn ac ardalydd Powys, a gwnaethpwyd ef yn stiward ar faenorau'r brenin yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, Dinbych, a Maesyfed, ac yn gofiadur Dinbych. Iddo ef a'i wraig, a oedd yn arglwyddes ystafell wely'r frenhines, y rhoddwyd gofal tywysog ieuanc Cymru yn 1688. Llwyddasant i gael y plentyn yn ddiogel i Ffrainc, lle yr ymunodd y brenin â hwy. Dyrchafodd Iago ef i fod yn ardalydd Trefaldwyn ac yn ddug Powys, 12 Ionawr 1689, a'r mis dilynol rhoddwyd ef ar herw, am deyrnfradwriaeth, gan y Senedd. Yr oedd gyda Iago yn Iwerddon, ac ymsefydlodd yn derfynol gydag ef yn Ffrainc, gan wasnaethu fel arglwydd ystafellydd y brenin a'i urddo'n farchog y gardas yn 1692. Bu farw yn St. Germain-en-Laye, 2 Gorffennaf 1696. Yr un flwyddyn rhoddwyd castell Powys i iarll Isellmynig Rochford. Dylanwadodd y dug i gymedroli ar Iago a gwelodd arweinwyr erlidiedig Anghydffurfiaeth ym Maldwyn (e.e. Richard Davies y Crynwr a Hugh Owen, Bronyclydwr) gryn garedigrwydd ar ei law.

Daeth dwy o'i ferched i enwogrwydd, y bedwaredd, LUCY THERESA HERBERT (1669 - 1744), fel abades y lleianod Awstinaidd Seisnig yn Bruges ac awdur llyfrau defosiynol a gyhoeddwyd yn 1791 o dan y teitl Several excellent methods of hearing Mass, a'r bumed, WINIFRED HERBERT (bu farw yn Rhufain, 1749), am iddi, gyda chymorth dwy wraig arall - Grace Evans y Trallwng (a fu farw 1737) ydoedd un - lwyddo i drefnu dihangfa i'w gŵr, iarll Nithsdale, ac yntau'n gorwedd dan ddedfryd marwolaeth yn Nhŵr Llundain am ei ran yng ngwrthryfel 1715. Disgrifir y ddihangfa yn A Letter from Winifred Herbert … to her sister, 1827.

Yr oedd ei unig fab

WILLIAM, ARGLWYDD HERBERT (c. 1665 - 1745)

yn was anrhydedd yng nghoroniad Iago II, ac yn ddirprwy-raglaw siroedd Môn, Caerfyrddin, Caernarfon, Meirion, Mynwy, a Phenfro yn 1688. Carcharwyd ef ar ddrwgdybiaeth o deyrnfradwriaeth yn 1689, a'i roi ar herw yn 1696, ond trwy wall technegol dihangodd ei stadau rhag eu hatafaelu. Wedi gwerthu'r tŷ ym meysydd Lincoln's Inn, adeiladodd Powis House yn Great Ormond Street. Carcharwyd ef eilwaith yn 1715, o ddrwgdybio'i gefnogaeth i'r Ymhonnwr, ond yn 1722 adferwyd ei stadau iddo, a'i alw i'r Senedd fel ardalydd Powys. Nid adnewyddwyd y ddugiaeth, er yr ymddengys iddo gynllunio pwyso ei hawl iddi. Tori ydoedd mewn gwleidyddiaeth. Claddwyd ef yn Hendon, 29 Hydref 1745, a gadawodd o'i wraig, Mary, ferch Syr Thomas Preston, ddau fab - WILLIAM, y 3ydd ardalydd, a fu farw yn ddibriod tua 50 oed yn 1748, ac EDWARD (a fu farw 1734) y bu iddo o'i wraig Henrietta, ferch yr iarll Waldegrave 1af, ferch a aned wedi ei farw, BARBARA (1735 - 1786), a briododd

HENRY ARTHUR HERBERT (c.1703 - 1772)

y 4ydd iarll, mab ac etifedd Francis Herbert, Dolguog a Pharc Oakley, o'i wraig Dorothy, ferch John Oldbury, masnachydd yn Llundain.

Disgynnai HENRY ARTHUR HERBERT yn uniongyrchol o Syr Rhisiart Herbert, brawd William Herbert, yr iarll Penfro 1af (dienyddiwyd y ddau, 1469), y bu ei fab anghyfreithlon, Richard, yn gyndad ieirll Penfro a Threfaldwyn ac ardalyddion Powys. Yr oedd hefyd yn disgyn o Edward Herbert (barwn Herbert o Chirbury o'r greadigaeth gyntaf) i'r hwn y cymynodd y 3ydd ardalydd ei stadau. Yr oedd Henry Arthur Herbert yn Brotestant ac yn Chwig, hyd 1762, ac aelod seneddol dros Bletchingley, 1724-7, a Llwydlo, 1727-43. Gwnaethpwyd ef yn farwn Herbert o Chirbury, 21 Rhagfyr 1743. Yn 1745 cododd gatrawd o ffwsilwyr yn Sir Amwythig i wrthwynebu'r Ymhonnwr ieuanc, a chyrhaeddodd radd cadfridog yn 1772. Yn 1748, gwnaethpwyd ef yn farwn Powys o gastell Powys, is-iarll Llwydlo, ac iarll Powys, ac yn farwn Herbert Chirbury a Llwydlo, yn 1749. Yn 1761, penodwyd ef yn rheolwr teulu'r brenin, aelod o'r Cyngor Cyfrin, a dirprwy-raglaw Maldwyn. O 1761 hyd 1765 yr oedd yn drysorydd y teulu, ond bu raid iddo ymddiswyddo i osgoi ei droi allan pan ddaeth y Chwigiaid i awdurdod. Pan briododd Barbara Herbert yn 1751 dywedir iddynt gytuno magu'r mab a'r ferch hynaf yn aelodau Eglwys Loegr a'r plant iau wrth ffydd eu mam. Mab a merch yn unig a oroesodd blentyndod, a'r ddau yn Brotestaniaid, GEORGE EDWARD HENRY ARTHUR, a ddilynodd ei dad yn 1772, a HENRIETTA ANTONIA, a briododd Edward, yr ail arglwydd Clive, yn 1784. Ceir mynych gyfeirio at y 4ydd iarll yn llythyrau'r Morysiaid. Cymerai ddiddordeb yn y gweithfeydd mwyn a chafodd brydles ar Esgairmwyn, Aberteifi, yn 1757, a chynigiodd Lewis Morris weithio'r mwyn drosto. Bu'r brodyr yn llawn gobaith y sicrhâi'r iarll ddyrchafiad i Oronwy Owen, yr hwn a gyfansoddodd gywydd yn Gymraeg a Lladin ar eni ei etifedd yn 1755. Bu'r 4ydd iarll farw 11 Medi 1772, a'i gladdu yn y Trallwng.

GEORGE EDWARD HENRY ARTHUR, 5ed iarll (1755 - 1801)

Yr oedd yn gofiadur Llwydlo ac arglwydd-raglaw Maldwyn, 1776, a Sir Amwythig, 1798. Bu farw'n ddibriod, 16 Ionawr 1801, a'i gladdu yn y Trallwng.

Gadawodd ei stadau i'w chwaer

HENRIETTA ANTONIA (1758 - 1830)

a briododd EDWARD (CLIVE) ail farwn Clive o Plassey. Gwnaethpwyd hwnnw yn farwn Clive o Walcot yn 1794, a bu'n llywodraethwr Madras o 1798 i 1803. Yn 1804 gwnaethpwyd ef yn farwn Powys o gastell Powys, barwn Herbert o Chirbury, is-iarll Clive o Lwydlo, a iarll Powys. Yr oedd yn arglwydd-raglaw Maldwyn, 1804-30, ac enwyd ef yn rhaglaw Iwerddon, 1805, ond ni chymerodd at y swydd. Er mai Tori ydoedd, ochrodd gyda'r Chwigiaid o 1783 i 1794, ond yn Nhŷ'r Arglwyddi pleidleisiodd yn erbyn trydydd darlleniad Mesur Diwygio'r Etholfraint yn 1832. Bu farw 16 Mai 1839, a chladdwyd ef yn Bromfield, Sir Amwythig.

Yn unol ag ewyllys ei ewythr, frawd ei fam, cymerodd ei fab a'i aer

EDWARD

is-iarll Clive o 1804-39, (addysgwyd yn Eton a Choleg S. Ioan, Caergrawnt; LL.D. 1835, D.C.L. Rhydychen 1844, aelod seneddol dros Lwydlo 1806-39), arfau a chyfenw HERBERT yn lle rhai CLIVE, yn 1807. Dilynodd ei dad fel arglwydd-raglaw Maldwyn yn 1830, a chymerodd ran flaenllaw yn narostwng cythrwfl y Siartiaid yn 1839. Yr oedd yn llywydd y Royal Cambrian Literary Institution a'r Welsh School, Gray's Inn Road, Llundain. Bu'n gefn i eisteddfod fawreddog y Trallwng, 1824, ac o 1843 i 1847 arweiniodd yn y frwydr lwyddiannus yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy er mwyn gwaddoli esgobaeth Manceinion. Sefydlwyd 'Ysgoloriaethau Powys' yn Rhydychen a Chaergrawnt i fyfyrwyr yn paratoi am urddau eglwysig allan o'r swm o £5,000 a gasglwyd at dysteb gyhoeddus i ddangos gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Gwnaethpwyd ef yn K.G. yn 1844. Yn 1828 ymunodd â Chlwb Roxburghe, gan fod yn llywydd yn 1835, a chyfrannu The Lyvys of the Seyntys at ei gyhoeddiadau yn yr un flwyddyn. Ymgeisiodd am gangelloriaeth Prifysgol Caergrawnt yn erbyn y tywysog Albert yn 1847, a chafodd 837 yn erbyn 954 o bleidleisiau. Ymhlith ei wasanaethau cyhoeddus ym Maldwyn yr oedd adeiladu tŵr eglwys blwyf a helaethu neuadd tref Trefaldwyn, a helaethu neuadd tref y Trallwng. Helaethodd gastell Powys hefyd. Bu farw 17 Ionawr 1848, o dan amgylchiadau trist, wedi ei saethu'n ddamweiniol gan un o'i feibion, yr Anrhyd. Robert Charles Herbert. Claddwyd ef yn y Trallwng. Lucy (1793 - 1875), trydedd merch James, 3ydd dug Montrose, oedd ei wraig.

Dilynwyd ef gan ei fab hynaf

EDWARD JAMES (1818 - 1891)

is-iarll Clive o 1839 hyd 1848. Ganwyd 5 Tachwedd 1818. Addysgwyd yntau yn Eton a Choleg S. Ioan, Caergrawnt. Yr oedd yn ysgolhaig o fri yn y clasuron, ac yn uchel stiward Prifysgol Caergrawnt o 1863. Bu'n gadeirydd sesiynau chwarter Maldwyn o 1855 ac yn arglwydd-raglaw 'r sir o 1877. Efe oedd llywydd cyntaf Coleg y Brifysgol, Bangor, llywydd y Powysland Club o 1867, a llywydd y Cambrian Archaeological Association, 1856, ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1885. Cymerodd ran flaenllaw yn natblygiad addysg ganol ym Maldwyn, ac yr oedd yn enwog am ei haelioni tuag at adeiladu ac adnewyddu eglwysi. Bu farw yn ddibriod 7 Mai 1891, a'i gladdu yn y Trallwng, gan adael ei stadau a'i deitl i'w nai, yr iarll POWYS presennol, mab ac etifedd y cadfridog Syr Percy Egerton Herbert, K.C.B., P.C. (1822 - 1876; D.N.B.).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.