CLIVE, HENRIETTA ANTONIA (1758 - 1830), teithwraig a chasglydd gwyddonol

Enw: Henrietta Antonia Clive
Dyddiad geni: 1758
Dyddiad marw: 1830
Priod: Edward Clive
Plentyn: Robert Henry Clive
Plentyn: Charlotte Florentia (née Clive)
Plentyn: Henrietta Antonia Wynn (née Clive)
Plentyn: Edward Herbert Clive
Rhiant: Barbara Antonia Herbert (née Herbert)
Rhiant: Henry Arthur Herbert
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: teithwraig a chasglydd gwyddonol
Maes gweithgaredd: Teithio; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Paul Frame

Roedd yr Arglwyddes Henrietta Clive (ganwyd Herbert) yn ferch i Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), iarll cyntaf Powys (o'r ail greadigaeth)) a'i wraig Barbara Herbert (ganwyd Herbert, 1735-1786). Ganwyd Henrietta ar 3 Medi 1758 ym mhrif gartref ei thad, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo yn Sir Amwythig. Yr unig blentyn arall i oroesi ei blentyndod oedd ei brawd hŷn, George Edward Henry Arthur Herbert (1755-1801). Ni wyddys fawr ddim am ei magwraeth gynnar. Erbyn 1771, pan oedd hi'n 13 oed, roedd ei thad mewn trafferthion ariannol, a gwerthodd Barc Oakley i'r nabob cyfoethog Robert Clive (1725-1774), barwn Clive cyntaf o Plassey, sy'n fwy adnabyddus heddiw fel ‘Clive o'r India’. Yn y flwyddyn ddilynol (1772) bu farw tad Henrietta a daeth ei hannwyl frawd yn ail iarll Powys. Yn 1774 bu farw ‘Clive o'r India’ hefyd a daeth ei fab hynaf, Edward Clive (1754-1839), yn ail farwn Clive o Plassey. Cyn iddo farw roedd tad Henrietta wedi trafod gyda Robert Clive y posibilrwydd o briodas rhwng Henrietta ac Edward. Fe'u priodwyd yn y pen draw yn Llundain ar 7 Mai 1784 a daeth Henrietta yn farwnes Clive o Plassey. Ganwyd pedwar o blant i Henrietta ac Edward. Edward Herbert Clive (1785-1848) oedd yr hynaf, ac fe'i dilynwyd gan Henrietta Antonia Clive (1786-1835), a elwid yn ‘Harry’ gan ei theulu ac a ddaeth yn delynores fedrus ac yn wraig i Syr Watkin Williams Wynn (1772-1840). Ganwyd merch arall, Charlotte Florentia Clive (‘Charly’, 1787-1866) yn Florence, a daeth honno wedyn yn ddysgodres i'r Frenhines Victoria. Ac yn olaf daeth mab arall, Robert Henry Clive (1789-1854).

Yn 1801 bu farw brawd dibriod Henrietta, George Herbert, gan adael dyledion sylweddol. Er i'r dyledion gael eu lleihau trwy werthu tiroedd pellennig ystad Powys, ni dderbyniodd Henrietta y gymynrodd o £500 y chwarter a adawodd George iddi yn ei ewyllys. Gadawodd Gastell Powys i fab hynaf Henrietta, Edward, ar yr amod ei fod yn cymryd enw ac arfbais Herbert yn lle Clive. Gwnaeth Edward hynny trwy Drwydded Frenhinol ar 9 Mawrth 1807. Ar 21 Tachwedd 1804 ailgrewyd y teitl Powys, a oedd wedi darfod gyda marwolaeth George Herbert, ar gyfer gŵr Henrietta, Edward, a ddaeth yn iarll Powys (o'r drydedd greadigaeth) a Henrietta yn iarlles.

Yr unig ffyrdd o farnu cymeriad Henrietta heddiw yw trwy'r hyn a ysgrifennodd a thrwy'r portread a wnaed gan Joshua Reynolds pan oedd hi'n bedair ar bymtheg oed. Yn y llun mae ei hwyneb crwn yn ffasiynol o welw, er gydag arlliw o ruddliw, mae ei golwg yn agored, yn eofn ac yn ymholgar ac mae ei cheg yn awgrymu natur benderfynol. Daw'r holl nodweddion hyn i'r amlwg yn ei llythyrau ac yn y dyddiadur a gadwodd yn ystod taith i'r India.

Chwaraeodd teithio ran bwysig ym mywyd Henrietta Clive, nid yn unig o ran pleser ond hefyd trwy ehangu ei chwilfrydedd a'i diddordeb mewn athroniaeth naturiol. Ar ddiwedd 1786 treuliodd hi a'i gŵr gyfnod estynedig yn Ewrop a ganwyd eu hail ferch, Charlotte Florentia, yn Florence yn 1787. Mae'n debyg mai arwydd o'i diddordeb mewn syniadau gwyddonol a'i pharodrwydd i'w gweithredu oedd penderfyniad Henrietta i frechu ei merch fach yn erbyn y frech wen tra yn Rhufain ym Mawrth 1788. Yn 1797 penodwyd ei gŵr yn Llywodraethwr Madras gan yr East India Company, ac ar 2 Ebrill 1798 hwyliodd Henrietta, ei gŵr, eu dwy ferch (gadawyd y bechgyn gartref) a dysgodres y merched, yr artist Eidalaidd Anna Tonelli, am yr India. Yn ystod arhosiad yn Ne Affrica dywedodd cyfoeswr fod ganddi feddwl agored i ‘bleser o bopeth’, parodrwydd i blesio ble bynnag y gallai a dull na allai beri tramgwydd. Yn breifat, fodd bynnag, ac yn gyson â'r natur ymholgar a welir yn y portread ohoni ni ymataliodd Henrietta rhag beirniadu rhai o'i chydnabod yn eofn a hyd yn oed yn llym. Cafodd y gymdeithas Brydeinig ym Madras ‘heb fod yn oleuedig iawn’ a'r ymwelydd yr Arglwydd Mornington, Llywodraethwr Cyffredinol yr India, yn ‘hynod o rwysgfawr’, a phan drowyd ei awdurdod i'w chyfeiriad hi tramgwyddwyd yr hyn a alwai hi ei ‘hysbryd Cymreig.’ Gan nad oedd Madras yn cynnig fawr ddim heblaw ‘busnes ac unigrwydd’ trefnodd Henrietta adeiladu ystafell yn ei gardd fel math o ‘laboratory for all sorts of odd rocks and works’ ac aeth ati hefyd i ddysgu ieithoedd defnyddiol. Cyn ei hymweliad blaenorol â'r Eidal roedd wedi dysgu darllen a siarad Eidaleg, ac yn yr India dechreuodd ddysgu Perseg (iaith llysoedd y tywysogion) a Hindwstaneg, gan ennill digon o hyfrededd yn y gyntaf i roi cynnig ar gyfieithu llinellau gan y bardd Khaja Shamsuddin Hafiz (y cyfieithwyd ei waith i'r Saesneg am y tro cyntaf gan William Jones yn 1771). Mae'r fath baratoadau yn dangos fod ganddi awydd i ddysgu am y wlad yn hytrach na sylwi arni yn unig, a'i bod felly yn deithwraig yn hytrach nag yn dwrist.

Yn 1800 gwireddodd ei huchelgais i deithio'n ehangach. Heb ei gŵr ond gyda'i merched a'u dysgodres a chwmni o dros saith cant a hanner, gan gynnwys gwarchodwr personol, aeth Henrietta ar daith o fil o filltiroedd drwy dde'r India y tu hwnt i diriogaeth y Prydeinwyr. Cychwynnodd o Fadras ar 4 Mawrth gan gyrchu perfedd y wlad trwy Vellore, Bangalore, Mysore, Coimbatoor a dychwelyd heibio Trichinopoly a Tanjore. Daeth yn ôl i arfordir y dwyrain i'r de o Fadras yn Tranquebar ar 29 Medi cyn teithio i'r gogledd i Pondicherry a chyrraedd pen y daith ym Madras ar 17 Hydref. Cyhoeddwyd golygiad o'r dyddiadur a gadwodd ar y daith ynghyd â llythyrau cysylltiedig yn 2009, ac maent ymhlith yr adroddiadau cynharaf am yr India gan wraig o Brydain.

Fel teithwraig chwilfrydig gyda diddordeb amlwg yn y maes cynyddol a elwid yr adeg honno yn athroniaeth naturiol ac a elwir heddiw yn wyddoniaeth, roedd Henrietta yn gasglydd brwd. ‘I ramble about all day hunting for plants’ nododd hi yn Cape Station yn Ne Affrica ar ei ffordd allan i'r India. Wrth ddatblygu ei diddordebau a'i chasgliadau bu'n gohebu ac yn sgwrsio â phobl eraill mewn amryw feysydd, gan gynnwys ‘boor’ a gyfarfu yn Cape Town, o'r enw Dr William Roxburgh, gofalwr yr ardd fotaneg a sefydlwyd gan yr East India Company ger Calcutta, a Dr Benjamin Heyne o'r ardd fotaneg ym Madras. Bu hefyd yn prynu ac yn cyfnewid mineralau gyda chasglwyr a gwerthwyr y cyfnod megis James Sowerby ac iarlles Aylesford. Gyda phwyslais ar gasglu botanegol and mineralegol, yn ogystal ag adar a phryfed, anfonodd Henrietta nifer fawr o spesimenau adref i Gymru. Mae rhai yng Nghastell Powys o hyd, ac mae'r hyn sy'n weddill o'i chasgliad o fil o fineralau, ‘wedi eu dosbarthu'n drefnus yn ôl cemeg’ a'u cofnodi mewn dau gatalog llawysgrif, bellach ar gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd lle mae'n un o'r casgliadau hanesyddol pwysicaf.

Fel casglydd a chatalogydd nid oedd Henrietta ar flaen y gad mewn mentrau gwyddonol, ond mae casgliadau a'r syniadau a ddaeth yn eu sgil yn allweddol i ddatblygiad gwyddoniaeth. Mae hi hefyd yn bwysig fel menyw yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei ddominyddu fel arall gan ddynion, sefyllfa yr oedd yn hollol ymwybodol ohoni pan ddywedodd wrth ei gŵr: ‘If you want collectors or collectoresses I think I should like to extremely... and grab over strange countries, particularly near Hyderabad. I should delight in it above all things. It is hard that we poor females are not to get anything in this Asiatic world.’

Bu farw Henrietta yn Walcott, ystad teulu Clive, yn 72 oed ar 3 Mehefin 1830 ac fe'i claddwyd yn Bromfield, er gwaethaf ei dymuniad i gael ei chladdu ym meddrod ei theulu yn y Trallwng.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-04-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/