Priododd Syr JOHN GRAY neu Grey, Heton, Northumberland (c. 1385 - 1421), Joan ferch henaf a chydaeres Syr Edward Cherleton, arglwydd Powys (a fu farw 1421). Daliodd hanner arglwyddiaeth y Trallwng, yn ei hawl hi, am rai misoedd. Pan gymerwyd Syr John Oldcastell a adweinid fel yr arglwydd Cobham, o'i ymguddfan ym Mroniarth, yn 1417, gan Ieuan a Gruffudd Fychan, a'i drosglwyddo i'w harglwydd yn y Castell Coch, Syr John Gray a'i hebryngodd i Lundain. Parodd ei fab HENRY GRAY (c. 1420 - 1450), arglwydd Tancarville, a briododd Antigone, ferch ordderch Wmffre, dug Gloucester, ddienyddio Syr Gruffudd Fychan yng nghwrt y Castell Coch yn 1447, yn nannedd saffcwndid a roesai ef ei hun. Y mae marwnadau'r beirdd yn adlewyrchu'r digofaint dwfn a enynnwyd gan y weithred hon. Tyngodd ei fab, Syr RICHARD GREY, y Trallwng (ganwyd yn Pontesbury, 5 Tachwedd 1436; bu farw 17 Rhagfyr 1466) lw o ffyddlondeb i Harri VI yn y Senedd, 24 Gorffennaf 1455, wrth deitl ' dominus de Powes.' Cyfrifir felly iddo fod yn arglwydd Grae o Bowys neu'n arglwydd Powys. Yn Rhyfeloedd y Rhosynnau yr oedd ef gyda dug Iorc ym mrwydr Ludford, 12 Hydref 1459, ond cymodwyd ef â'r brenin cyn diwedd y flwyddyn, a'r flwyddyn ganlynol yr oedd iarll Warwick yn gorchymyn iddo ildio castell Trefaldwyn. Yn 1461, er hynny, cafodd ystiwardiaeth Ceri, Cydewain, a Threfaldwyn. Priododd, cyn 12 Ionawr 1459, Margaret, gweddw Syr Rhosier Fychan, a merch James, arglwydd Awdley. Cyfeirid y wŷs i alw ei fab, JOHN GREY, i'r Senedd rhwng 1482 a 1491, at ' Johanni Grey de Powes chivaler.' Anne, ferch William Herbert, arglwydd Penfro, oedd ei wraig (priododd wedi 14 Chwefror 1471). Bu farw yn Hydref 1494 a dilynwyd ef gan y 3ydd barwn, ei fab, JOHN GREY (c. 1483 - 1504). Bu ei fab yntau, y 4ydd barwn, EDWARD GREY, farw 2 Gorffennaf 1551, heb adael etifedd cyfreithlon. Yn ei ewyllys gadawodd ei stadau (cawsai feddiannau abaty Buildwas yn 1537) i'w fab ordderch, EDWARD GREY, yr hwn a werthodd yr arglwyddiaeth i'r Herbertiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.