VAUGHAN (TEULU), Llwydiarth, Sir Drefaldwyn.

Nid yn Sir Drefaldwyn yr oedd gwreiddiau y teulu hwn. Dywedir am Celynin (fl. yn nechrau'r 14eg ganrif) iddo ffoi o Dde Cymru wedi iddo ladd maer Caerfyrddin; ei wraig gyntaf oedd Gwladus, aeres Llwydiarth ac yn disgyn ar y ddwy ochr o dywysogion Powys. Yr oedd GRUFFUDD, gor-or-ŵyr Celynin, yn un o bleidwyr Owain Glyndŵr, a chafodd bardwn am hyn gan Edward de Charlton, arglwydd Powys; yn seithfed blwydd teyrnasiad Harri V y rhoddwyd y pardwn. Nid ydyw Lewis Glyn Cothi yn cyfeirio at y teulu ac y mae'n debyg nad oedd iddo bwysigrwydd cyn cyfnod y Tuduriaid.

Ymddengys fod aelodau teulu'r Fychaniaid yn wastad yn cweryla â theulu'r Herbertiaid ac mai hyn oedd y rheswm paham na chafwyd o'u plith aelodau seneddol dros sir Drefaldwyn a dim ond un siryf - JOHN ab OWEN VAUGHAN, yn 1583. Priododd ef â Dorothy, merch Howell Vaughan, Glan-llyn, a chwaer John Vaughan, siryf Meirionnydd yn 1594. Priododd OWEN, mab John ab Owen Vaughan, Catherine, ferch Morrice ap Robert, aer Llangedwyn, a chafodd ohoni ddau fab - JOHN (a aeth i'r Inner Temple yn 1606) a SYR ROBERT, a briododd Catherine, merch William, yr arglwydd Powys 1af.

Daeth llinell wrywol y teulu i'w therfyn gyda marw Syr Robert, ac aethpwyd â Llwydiarth a Llangedwyn gan ei ferch ef, Eleanor, i feddiant John Purcell, Nantcriba, a chan ei ferch yntau i'w gŵr hithau - EDWARD VAUGHAN, Glan-llyn a Llwydiarth. Bu ef yn siryf Sir Drefaldwyn yn 1688, yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Trefaldwyn, ac wedyn, am 58 mlynedd, dros y sir ei hunan; gor-ŵyr siryf Sir Feirionnydd yn 1594 ydoedd ef.

Aethpwyd â stadau unedig Llwydiarth, Llangedwyn, a Glan-llyn gan Anne, merch ac aeres Edward Vaughan, i'w gŵr Syr Watkin-Williams Wynn - Teulu, gweler Wynn Wynnstay - 3ydd barwnig Wynnstay; yr oedd ei fam ef, Jane Thelwall, aeres Plas-y-ward, yn bumed o ran disgyniad o'r John Owen Vaughan a enwyd uchod.

Yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xiv, ceir erthygl (gyda darluniau) ar y 30 arfbais a arferai fod ar sêt teulu Vaughan yn eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, ond a drosglwyddwyd i gapel plas Wynnstay. Yn yr un gyfrol ceir darlun o Lwydiarth (a dynnwyd i lawr bellach) wedi ei gymryd o ' Progress ' (1684) dug Beaufort.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.