O Fodfari, sir Ddinbych. Brodor oddi yno hefyd ydoedd Wiliam Tomos ab Edward, y copïydd a enwir yn Peniarth MS 122: Poetry, &c. (509). Adweinid Lewis ab Edward hefyd fel Lewis Meirchion, ond nid yr un ydoedd â Lewis Môn (fl. c. 1480-1527), fel yr awgrymir weithiau. Dichon bod ei farwnad i Iemwnt Llwyd o Lynllifon (bu farw 1541) ymhlith ei weithiau cynharaf. Bu yn neithior Wiliam Llwyd ab Elisau o Riwaedog ac Elsbeth ferch Owain ap Siôn, Llwydiarth, 20 Hydref 1555, lle cyfansoddodd englynion dychan i Ruffudd Hiraethog (y 'cyff cler' yno). Graddiodd yn bencerdd yn eisteddfod Caerwys, 1568, a pherthyn felly i'r genhed'aeth olaf o'r prif benceirddiaid. Nid yw dyddiad ei farw'n hysbys, ond cynhwysir ef mewn marwnad i ugain o wŷr wrth gerdd a briodolir i Wiliam Llŷn (bu farw 1580) ac i Siôn Tudur (bu farw 1602). Cyfeiria'r farwnad at ei ffraethineb a'i ddysg. Canodd i aelodau o deuluoedd Bodeon, Cochwillan, Glynllifon, Llyweni, Plas Newydd, a Rhiwaedog. Cyfeirir at ei lyfr achau yn Peniarth MS 133 , Peniarth MS 134 a Peniarth MS 135 .
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.