LEWIS MÔN (fl. c. 1480-1527), bardd

Enw: Lewis Môn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

o Lifon, sir Fôn. Yn ei farwnad i Dudur Aled fe'i geilw'n ' athro,' ac ategir bod cysylltiad agos rhwng y ddau fardd gan dystiolaeth marwnad Ieuan ap Madog ap Dafydd i Syr Dafydd Trefor. Un o feirdd yr uchelwyr ydoedd, a chanodd gryn lawer, ymhlith eraill, i deulu'r Penrhyn. Ymddengys iddo ddirwyn ei oes i ben yn abaty Glyn Egwestl, lle y claddwyd ef. Profwyd ei ewyllys 28 Mehefin 1527. Rhoir ei ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 303. Canwyd marwnad iddo gan Ddafydd Alaw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.