OLIVER, EDWARD (1720 - 1777), Methodist a Morafiad cynnar, saer coed wrth ei waith

Enw: Edward Oliver
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1777
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Methodist a Morafiad cynnar, saer coed wrth ei waith
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 'yn sir Drefaldwyn ' (meddai cofnod Morafaidd) ar ddydd Gwener y Groglith (15 Ebrill neu 29 Mawrth, yn ôl dull y calendr), 1720. Wedi gweithio yn Wrecsam ( Gomer M. Roberts , Peter Williams, 33), symudodd yn 1748 i Lanbrynmair; yr oedd yn 'gynghorwr cyhoedd' cymharol ddinod gyda'r Methodistiaid. Yn ymraniad 1750 yr oedd ym mhlaid Harris; bu'n efengylu drosto yng Ngogledd Cymru ac yn bresennol mewn amryw o'i sasiynau. Yn 1752 ymunodd â Theulu Trefeca, ond yn 1753 aeth oddi yno i Fryste; yno dilynai ei grefft, a glynodd am beth amser wrth Fethodistiaeth Whitefield, ond yn y diwedd (1758) daeth yn aelod o'r gynulleidfa Forafaidd. Yn Hydref 1761 anfonwyd ef i'r Dderwen Deg (gerllaw Rhuthyn) i gychwyn cenhadaeth yn y Gogledd; bu yno (gan ddefnyddio'r lle'n ganolfan teithiau) ar waethaf anawsterau lawer hyd Fehefin 1774, pan symudodd i Abergwaun. Bu farw yn Abergwaun, 3 Mehefin 1777, a chladdwyd yn erw'r Brodyr yn Hwlffordd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.