Drws-y-coed Uchaf ar flaen dyffryn Nantlle o 1744 hyd ei farwolaeth; gŵr hysbys i Oronwy Owen, Margaret Davies o'r Coedcae-du, a 'Dafydd Ddu Eryri' (David Thomas) fel carwr llenyddiaeth, ond sydd hefyd yn haeddu sylw am mai ei dŷ ef oedd aelwyd y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd o 1768 hyd 1776 - gweler dan yr enwau David Williams (1702 - 1779), David Mathias, a John Morgan (1743 - 1801). Nid iddo ef yn gymaint y mae hynny i'w briodoli, eithr yn hytrach i'w briod ALICE (1730 - 1808), ferch Rhys Ellis o'r Tyddyn Mawr yn Llanfihangel-y-pennant (teulu llengar arall); fe'u priodwyd 16 Tachwedd 1753. Bu Griffith farw 20 Ebrill 1782, a'i weddw 6 Mawrth 1808; ym Meddgelert y claddwyd hwy. Cawsant fab (a ymfudodd i'r U.D.) ac wyth o ferched; daeth pump o'r rhain yn weithwyr selog gyda Morafiaeth yn Nulyn neu ym Mryste; un arall ohonynt oedd mam Alicia Evans, priod William Griffith (1801 - 1881) o Gaergybi. Yr oedd gan William Griffith o Ddrws-y-coed chwaer, Jane, a'i merch hi, Janet, oedd priod John Griffith (1752 - 1818) - yr oedd William Griffith, Caergybi, a'i wraig Alicia felly'n gyfyrdyr; hwy oedd rhieni Syr John Purser Griffith. Ac yr oedd gan Alice Griffith o Drws-y-coed hithau chwaer, Margaret (Price), o'r Glyn, Talsarnau; aeth un o'i merched i'r gwaith Morafaidd yn Nulyn, Bryste, Bedford, a Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.