Ail fab John Griffith (1752 - 1818); ganwyd 12 Awst 1801 yng Nglan-yr-afon, Llanfaglan. Bu yn y Neuaddlwyd a Chaerfyrddin, ac urddwyd ef yn 1822 yn weinidog Caergybi, lle y bu hyd ei farwolaeth, ar waethaf galwadau o eglwysi pwysig yn Llundain, Lerpwl, Caerfyrddin, a mannau eraill. Bu bugeiliaeth faith Griffith yn bwysig iawn yn hanes Annibyniaeth Môn, a thyfodd yntau'n un o arweinwyr ei enwad yn y Gogledd. Bu farw 13 Awst 1881. Y mae ei gysylltiadau â Morafiaeth yn ddiddorol. Nith oedd ei fam i William Griffith (1719 - 1782) o Ddrws-y-coed, a'i gydnabyddiaeth â'r teulu a arweiniodd i'w briodas (1843) ag Alicia Evans, ŵyres i'r un William Griffith; yng nghapel y Morafiaid ym Mryste y priodwyd hwy, a daeth Mary Griffith, modryb y briodasferch a ' llafurwraig ' yn eglwys y Morafiaid, i fyw atynt i Gaergybi, lle y bu hi farw yn 1847. Bu farw Mrs. Griffith 21 Mawrth 1865. Am eu mab Syr John Purser Griffith gweler dan ei enw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.