Ganwyd gerllaw Pencader 10 Mai 1752. Bu yn academi Caerfyrddin o 1774 (efallai o 1771) hyd 1778. Urddwyd ef (5 Gorffennaf 1780) yn weinidog Llanfyllin, lle y cafodd gryn erlid. Yn 1782 symudodd i Bendref, Caernarfon, ond ymadawodd yn 1784 i'r Fenni. Gofalaeth anghysurus oedd honno; bu rhwyg (tua 1786), a daliodd yr wrthblaid ei gafael yn y capel, fel y bu'n rhaid i Griffith a'i ddilynwyr addoli mewn ystafell log. Ond yn 1796 galwyd ef yn ôl i Gaernarfon, a bu yno hyd ei farw. Yr oedd yn ddyn tal a lluniaidd. Gwnaeth lawer i gadarnhau Annibyniaeth nid yn unig yn y dref ond yn yr ardaloedd o'i chwmpas. Bu dan y parlys am fisoedd yn 1802, ond adferwyd ef ddigon i ailgydio yn ei lafur. Bu farw 18 Chwefror 1818. Yn 1783, cyhoeddodd emyniadur, Amryw Salmau a Hymnau Profiadol, ac yn 1788 Dechreuad a Chynydd Crefydd yn yr Enaid (cyfieithiad o Doddridge). Bu'n briod ddwywaith. Ei ail wraig oedd Janet, ferch Janet Williams (o Fwlch Mwlchan), chwaer William Griffith (1719 - 1782), Drws-y-coed - nid chwaer Alice Griffith ei wraig, fel y dywedir yng Nghofiant William Griffith, Caergybi. Cawsant ddau fab. Yr hynaf oedd JOHN GRIFFITH (ganwyd 11 Medi 1799 yn Nhyddyn-y-graig, Dolbenmaen), a aeth i'r Neuadd-lwyd ac i Gaerfyrddin, ac a fu'n weinidog yn Biwmares, Manceinion, Rhaeadr Gwy, a Bwclai, lle y bu farw 16 Mehefin 1877. Am yr ail fab,, gweler yr etrhygl amdano William Griffith (1801 - 1881).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.