Yr oedd yn ferch i ŵr o'r enw Dafydd Evan o'r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd. Dysgodd reolau cerdd dafod yn ei hieuenctid, a cheir yn Cymru (O.M.E.), xxv, 93-8 gopi o lythyr a anfonasai Michael Prichard ati yn 1728, llythyr a brawf ei bod yn cyfarwyddo'r gwr hwnnw yng nghelfyddyd barddoniaeth Cymraeg. Gellir casglu ei bod yn gymeriad pur amlwg yng nghylchoedd llenyddol Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, er mai ychydig o gyfeiriadau a geir ati yn llyfrau a llawysgrifau ei chyfoeswyr. Y mae gennym englynion a chywyddau o'i gwaith yn ei llaw hi ei hun, ond nid oes ryw lawer o gamp arnynt. Gellir barnu wrth ddarnau o lythyrau a geir yma a thraw yn ei llawysgrifau iddi fwrw llawer o'i hamser yn ymweled â chartrefi ei chyfeillion a'i pherthnasau, megis y Goetre ym mhlwyf Llanelltyd, y Berth-lwyd yn ymyl Dolgellau, Bronwion ym mhlwyf y Brithdir, a Phlas Tanfynwent yn Nolgellau. Y mae'n weddol sicr ei bod yn perthyn i'r teulu a drigai yn y Goetre ac ym Mronwnion, a gellir tybied mai yn y Goetre y cartrefai yn ei hen ddyddiau, o tua 1766 ymlaen. A'r teulu hwnnw a gafodd ei llyfrau.
Ceir llawysgrifau o'i gwaith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd ac Abertawe, ac yn yr Amgueddfa Brydeinig. Cynhwysant gasgliadau o awdlau a chywyddau ac o garolau a cherddi rhydd eraill o amrywiol fathau. Y mae'n eglur mai casglu gweithiau'r henfeirdd ydoedd ei phrif ddifyrrwch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.