Ganwyd c. 1709, mab i Richard William Pritchard, gwehydd a chlochydd, Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Pan yn ifanc iawn aeth o Lanllyfni i Lanfechell ym Môn, lle y bu yn dilyn ei alwedigaeth fel garddwr yng ngwasanaeth William Bulkeley, Brynddu. Yr oedd yn fardd medrus, ac y mae llawer o'i weithiau ar gael. Y mwyaf nodedig o'i gyfansoddiadau oedd ' Cywydd i'r Wyddfa '; ' Cywydd Marwnad Owen Gruffydd o Lanystumdwy (1643-1740) ' ' Englynion i'r Dderwen y dihangodd Charles II iddi am ei hoedl rhag y Rowndiaid.' Ceir sawl dyddiad i farwolaeth Pritchard ond dywaid Hugh Hughes ('Bardd Coch') yn ei farwnad iddo farw yn 1733 yn 24 oed, yn Llanfechell, a chladdwyd ef yno 3 Gorffennaf 1733.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.