Ganwyd ym mhlwyf Llandwrog (Arfon), 2 Awst 1702. Erbyn 1728 beth bynnag, yr oedd yn Llundain, yn rhwymo llyfrau. Ymunodd ef a'i wraig â'r seiat Forafaidd yn 1739. Bu hi farw 5 Rhagfyr 1766, ac yn niwedd 1767 penderfynodd yntau ddychwelyd i fro ei febyd. Efe a ddug Mrs. Alice Griffith (gweler Griffith, William, 1719 - 1782) i gyswllt â Morafiaeth, ac a barodd i David Mathias gael ei anfon i Wynedd. Bu farw rhwng Mawrth a Mehefin, 1779.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/