MANSEL, WILLIAM LORT (1753 - 1820), pennaeth Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac esgob Bryste

Enw: William Lort Mansel
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1820
Rhiant: Anne Mansel (née Lort)
Rhiant: William Wogan Mansel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac esgob Bryste
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 2 Ebrill 1753. Adroddir ei hanes yn y D.N.B. Aeth i Goleg y Drindod ddechrau 1770; graddiodd yn 1774 (D.D. yn 1798); etholwyd ef yn gymrawd yn 1775; bu'n athro'r clasuron yn y coleg; ac etholwyd ef yn bennaeth ('Master') yn 1798, gan Pitt. Yn 1808 penodwyd ef yn esgob Bryste - ni welai'r oes honno unrhyw fai arno am ddal y ddwy swydd ynghyd. Bu farw 27 Mehefin 1820. Yr oedd yn ysgolhaig da, ond efallai'n hynotach am ei ffraethineb a'i allu i lunio epigramau a dychangerddi. Pan ddyrchafwyd ef yn ben ar ei goleg, yr oedd hi'n ddrwg rhwng y cymrodyr yn herwydd gwahaniaethau politicaidd cyfnod y Chwyldro Ffrengig a'r rhyfel; ond bu Mansel yn hynod ddoeth wrth y llyw - gweler G. M. Trevelyan, Trinity College, 81-3. Eithr â'i gysylltiadau Cymreig y mae a fynnom ni yma. Ganwyd ef yn nhref Penfro; ei dad oedd William Wogan Mansel. Nid yw'n glir beth oedd perthynas y teulu â Mawnseliaid Margam neu Fotlysgwm ar y naill law, nac â Woganiaid Dyfed ar y llall; ond gwyddys i'r ddwy gainc o'r Mawnseliaid ymbriodi o dro i dro â theulu Wogan Cas Gwis ('Wiston') a Boulston. Mam W. L. Mansel oedd Anne Lort, merch i'r Roger Lort o Prickaston a fu farw yn 1745 a chwaer i'r athro Michael Lort (gweler dan ' Lort ').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.