Tybir mai GWGAN AP BLEDDYN, arglwydd Brycheiniog, oedd cyndad y gwahanol ganghennau o deulu'r Woganiaid (yr oedd canghennau ym Mhictwn, Boulston, Casgwîs, Llanstinan, Stonehall, a mannau eraill yn Sir Benfro, yn ogystal ag yn Iwerddon a Lloegr) a phriododd un o'i ddisgynyddion etifeddes Casgwîs, gwraig o hil Wîzo'r Ffleminwr, arglwydd Daugleddau.
(1) Pictwn.
Yr aelod cyntaf o'r teulu a fu'n enwog ydoedd Syr JOHN WOGAN, ustus Iwerddon, un o Woganiaid Pictwn, ond ni wyddys nemor ddim am ei rieni na'i fywyd cynnar. Darllenir amdano gyntaf yn 1281 a 1290 pryd y bu'n cynnal ymchwiliadau yng Nghymru dros y brenin, ond y mae'n debyg fod ganddo hefyd gysylltiad ag Iwerddon cyn 1284. Ar ôl ei benodi'n un o farnwyr swydd Gaerefrog yn 1293, gwnaed ef yn ustus Iwerddon yn 1295. Yn ystod y cyfnod y bu'n gwasnaethu yn y swydd hon daeth yn berchen ar stadau helaeth yn Iwerddon. Naill ai yr oedd iddo fab o'r un enw ag ef ei hun a fu hefyd yn ustus Iwerddon (fel yr awgryma Francis Green, yn W. Wales Records, vi, 176), neu fe'i hailbenodwyd i'r swydd yn 1308 a gweithredu ynddi tan 1313. Ei wraig oedd Margaret (bu farw 1302), merch ac un o gyd-etifeddion Robert de Valle (Dale), arglwydd Castell Gwalchmai (Walwyn's Castle). Sefydlodd Syr John Wogan, arglwydd Pictwn (fel y'i gelwid), siantri Sain Niclas yn eglwys gadeiriol Tyddewi yn 1302 a dywedir mai yno y'i claddwyd. Trwyddo ef hefyd y cyflwynwyd maenor Cas Morus ym Mhebidiog yn rhodd i esgob Tyddewi yn 1302. Bu farw 1321. Penodwyd ei fab a'i etifedd, Syr THOMAS WOGAN (ganwyd c. 1311) yn swyddog y siêd yn Iwerddon yn 1338 ac enillodd ganmoliaeth a gwobr y brenin am ei wasanaeth yno ac yng Nghymru a'r Alban. Bu farw 1357. Ei orwyr, JOHN WOGAN (bu farw cyn 1420), ydoedd yr olaf o Woganiaid Pictwn yn y llinach agnatig.
(2) Casgwîs.
Hyd yn hyn ni phenderfynwyd y wir berthynas rhwng Woganiaid Picton a Chasgwîs. Bu teulu Casgwîs, tirfeddianwyr cefnog yn Neugleddau, yn flaenllaw ym mywyd lleol y cylch, yn enwedig yn y 15fed ganrif. Urddwyd nifer ohonyn yn farchogion - Syr JOHN WOGAN (bu farw 1419), ei wyr Syr HENRY WOGAN, stiward iarllaeth Penfro yn 1448 (ei wraig oedd Margaret, merch Syr William Thomas - yn ddiweddarach Herbert - o Raglan), a'i fab Syr JOHN WOGAN a briododd â Matilda, merch ac etifeddes William Clement, arglwydd Geneu'rglyn yng Ngheredigion; lladdwyd ef ym mrwydr Banbury ar 26 Gorffennaf 1469 (H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses, 109-10, 176, 184). Wyr Syr John Wogan ydoedd y Syr JOHN WOGAN hwnnw a fu'n rhingyll yn siambr y brenin. Rhoddwyd iddo swyddi yn Sir Benfro a Sir Aberteifi am ei wasanaeth yn Lloegr ac mewn gwledydd tramor. Bu'n siryf Sir Aberteifi yn 1542 a 1556 a Sir Benfro yn 1543 a 1554. Ei wraig oedd Anne, etifeddes William ap Phillip o Stonehall, Sir Benfro. Bu farw 23 Awst 1557. Bu ei w yr, JOHN WOGAN, yn siryf Sir Aberteifi yn 1564 a Sir Benfro yn 1567 a 1572. Ei wraig oedd Cecil, merch Syr Edward Carne o Briordy Ewenni, Sir Forgannwg. Bu farw 4 Mai 1580. Urddwyd ei etifedd, Syr WILLIAM WOGAN (bu farw 1625), yn farchog cyn 1611 a phriododd Sibyl, merch Syr Hugh Owen o Orielton. Gwraig eu mab, Syr JOHN WOGAN (1588 - 1644), oedd Jane, merch Syr Thomas Colclough o Tintern, sir Wexford; priodwyd hwy cyn 1628. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Bu'n siryf Sir Benfro yn 1636 ac yn aelod seneddol drosti yn 1614, 1620-2, 1625, 1626, 1628-9, 1640, a 1640-4. Trydydd mab i Syr John Wogan o'i wraig Jane Colclough ydoedd y cyrnol THOMAS WOGAN, 'y teyrnleiddiad.' Yn ystod y Rhyfel Cartrefol bu'n amlwg yn yr ymladd o blaid y Senedd, gan godi i safle capten, ac yna yn gyrnol. Ym mis Mawrth 1648 anfonodd Cromwell ef i Gymru i gynorthwyo ailsefydlu'r heddwch yn Sir Benfro a'r siroedd cyfagos. Cafodd ganmoliaeth gan y cyrnol Thomas Horton am ei wasanaeth yn yr ymladd a chyrhaeddodd ei anterth ym mrwydr Sain Ffagan ar 8 Mai 1648. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Aberteifi yn 1646-53 ac yn y cyfnod hwnnw cyflwynodd gais oddi wrth breswylwyr y dref am ysgol rydd i Aberteifi. Yn Ionawr 1649 efe oedd un o farnwyr y brenin ac arwyddodd y warant i'w ddienyddio. Yr oedd yn aelod o'r Senedd yn 1659 ('the Rump Parliament'). Ar ôl adfer y frenhiniaeth gosodwyd ef ar brawf, ac ar 6 Mehefin 1660 gwnaed eithriad ohono yn yr ' Act of Oblivion.' Ar ôl iddo'i roi ei hun i fyny ar 27 Mehefin 1664, carcharwyd ef, ond ar 27 Gorffennaf 1664 dihangodd o'r Twr gyda charcharorion eraill. Ymddengys iddo ffoi i Holand, ac yn 1660 clywir amdano yn Utrecht. Yr oedd yn fyw o hyd yn 1669 (Trans. Cymm., 1946 -7, 214). Trigai'r Woganiaid yng Nghasgwîs hyd oni werthwyd y stad i John Campbell (yr arglwydd Cawdor) yn 1794.
(3) Boulston.
Yn y 15fed ganrif priododd Henry Wogan o Milton, mab i Syr John Wogan o Gasgwîs, â Margaret Dyer o Boulston, ac o'r briodas hon y disgynnodd Woganiaid Boulston. JOHN WOGAN, mab i Richard Wogan o Boulston o'i wraig Matilda, merch Syr Thomas Philipps o Gilsant, oedd siryf Sir Benfro yn 1566, 1574, 1584, a 1598 ?, ac yn aelod seneddol dros sir Benfro yn 1545-7 a 1553 (Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, 154). Urddwyd ef yn farchog cyn 25 Tachwedd 1597. Priododd (1) â Jane, merch Richard Wogan o Gasgwîs, a (2) ag Elizabeth, merch Robert Byrte o Llwyndyrus, Sir Aberteifi. Cysylltwyd ei enw â'r ymchwiliadau ynglyn â môr-ladrata yn 1564-90. Bu farw 1601. Urddwyd JOHN WOGAN, ei fab o'i wraig gyntaf, yn farchog hefyd. Dywed Williams (Parl. Hist., 155) iddo fod yn aelod seneddol dros sir Benfro yn 1571, c. 1576 neu 1581-3. Bu'n ddirprwy-raglaw (1595-1600) ac yn siryf (1606-30) Sir Benfro. Priododd (1) â Frances Pollard (bu. farw 1623), merch Lewis Pollard o Kingsnympton, Dyfnaint, a (2) â Margaret (ni wyddys merch pwy ydoedd). Bu farw 14 Medi 1636. Bu ei wyr, ABRAHAM WOGAN, ail fab i Maurice Wogan (1583 - 1640) o'i wraig Frances, merch Syr Hugh Owen o Orielton, yn siryf Sir Benfro yn 1648. Bu farw Ionawr 1652. Ei fab ef oedd LEWIS WOGAN (c. 1649 - 1702); addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (1665-?) a bu'n siryf Sir Benfro yn 1672. Ei wraig oedd Katherine Philipps o'r Priordy, Aberteifi. Yn 1714 daeth Woganiaid Gawdy Hall, Norfolk, yn berchen ar stad Boulston.
(4) Llanstinan.
Sefydlwyd cangen o'r teulu yn Llanstinan gan REES WOGAN, mab i Syr John Wogan o Boulston, a briododd Jenet, cyd-etifeddes Llewelyn Lloyd o Lanstinan. Cododd ei wyr, WILLIAM WOGAN, ail fab Thomas Wogan, i safle o fri yn y gyfraith. Derbyniwyd ef yn aelod o Gray's Inn ar 23 Mai 1653 a'i alw i'r Bar ar 1 Mehefin 1660. Gwnaed ef yn siersiant y brenin ar 4 Mai 1689. Bu'n gweithredu fel prif ustus cylch Caerfyrddin yn y sesiwn fawr, 1689-1701. Bu hefyd yn aelod seneddol dros Hwlffordd yn 1679, 1685-7, a 1689-1701, a thros sir Benfro yn 1681. Urddwyd ef yn farchog ar 21 Hydref 1689. Priododd (1) ag Elizabeth (bu farw 1697), merch a chyd-etifeddes Syr John Ashburnam a gweddw Syr John Jacob o Bromley, Middlesex, barwnig, a (2) â Mary (bu farw 1708), merch Dame Elizabeth Purbeck o Hatton Gardens, Middlesex, a Viscount Purbeck. Bu farw 1 Tachwedd 1708.
(5) WOGAN, WILLIAM (1678 - 1758), awdur llyfrau ar grefydd CrefyddLlenyddiaeth ac Ysgrifennu,
trydydd mab Ethelred Wogan, rheithor Gumfreston (1665-1686?), ac offeiriad Penalun (Penally), Sir Benfro, a oedd naill ai'n wyr i Ethelred Wogan, siryf a maer Hwlffordd yn y cyfnod 1623-47 (W. Wales Records, vii, 11-2), neu'n un o Woganiaid Lisburne yn Iwerddon. Dywedir mai chwaer i Robert Williams o Gefn-gorwydd ym mhlwyf Casllwchwr, Sir Gaerfyrddin, oedd ei fam (bu farw 1732), ac ar ôl i'w dad farw (cyn 13 Chwefror 1686) yng Nghefn-gorwydd y'i magwyd. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Abertawe ac Ysgol Westminster (1694), a'i dderbyn i Goleg y Drindod, Caergrawnt, ar 5 Mehefin 1700. Gadawodd y brifysgol heb radd a chymerodd swydd athro, ac yna swydd clerc, yn nheulu Syr Robert Southwell. Yn 1712 ymunodd â'r fyddin. Ei wraig oedd Catherine Stanhope (bu farw 1726) ac ymgartrefodd yn Ealing o thua 1727 ymlaen. Yno ysgrifennodd nifer o weithiau crefyddol, yn cynnwys Essay on the Proper Lessons of the Church of England, 1753. Yr oedd William Wogan yn ddyn duwiol a chanddo gyfeillion lawer ymhlith arweinwyr efengylaidd ei oes. Bu farw 24 Mehefin 1758.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.