JENKINS, Syr LEOLINE (1625 - 1685), gwr o'r gyfraith sifil, llysgennad, noddwr Coleg Iesu Rhydychen

Enw: Leoline Jenkins
Dyddiad geni: 1625
Dyddiad marw: 1685
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwr o'r gyfraith sifil, llysgennad, noddwr Coleg Iesu Rhydychen
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith; Dyngarwch; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David James Llewelfryn Davies

Mab i dad o'r un enw o Llanbleddian, Sir Forgannwg ('a man of about £40 a year); ganwyd yn Llantrisant yn 1625, y mae'n debyg, er dywedyd weithiau ddarfod ei eni yn 1623. Bu yn ysgol ramadeg y Bont-faen cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1641. Amharwyd ar gwrs ei addysg yn Rhydychen gan y Rhyfel Cartref, ac wedi iddo gymryd arfau o blaid y brenin gorfu iddo ymneilltuo i Sir Forgannwg. Y pryd hwn y cyfarfu â'i gyfaill a'i noddwr, Gilbert Sheldon (yr archesgob wedyn), a aethai am loches, gyda Dr. Francis Mansell, prifathro Coleg Iesu, yn nhy Syr John Aubrey yn Llantrithyd. Tra y bu yno gwasnaethodd Jenkins fel athro preifat i fab Aubrey ac i eraill hyd nes y symudwyd ef trwy rym a'i gyhuddo o gadw seminari lle y dysgid gwrthryfel a brad. Symudodd i Rydychen gyda'i ddisgyblion ac ymsefydlodd mewn ty a gafodd ei gyfenwi ' The Little Welsh Hall.' Gan ei fod yn cael ei ddrwgdybio oherwydd ei gysylltiadau â brenhinwyr, ffodd i'r Cyfandir, gan fyned â'i ddisgyblion gydag ef. Tra bu allan o'r wlad gosododd sylfeini ei wybodaeth o'r gyfraith sifil a oedd i'w gymhwyso ar gyfer ei yrfa gyhoeddus. Ar ôl yr Adferiad dychwelodd Jenkins i Goleg Iesu a chafodd ei wneuthur yn gymrawd. Pan ymneilltuodd Mansell yn 1661 etholwyd ef yn brifathro, a daliodd y swydd hyd 1673. Yn 1662 gwnaethpwyd ef yn ddirprwy athro adran y gyfraith sifil; gwnaethpwyd ef hefyd yn ' Assessor to the Chancellor's Court ' a rhoddwyd iddo'r swydd o ohebydd tramor y brifysgol. Ar berswâd Sheldon penderfynodd ddewis ymarfer y gyfraith sifil yn yrfa iddo'i hun. Daeth swyddi i'w ran yn gyflym. Yn 1663 gwnaethpwyd ef yn ddirprwy i ddeon y 'Court of Arches' ac yn fuan wedi hynny daeth ei hunan yn ddeon. Wedi i'r rhyfel gyda'r Is-Ellmyn dorri allan yn 1665 dewiswyd ef yn llywydd uchel-lys yr admiralti; ychydig wedi hynny cafodd ei ethol yn farnwr llys ewyllysiau ('Prerogative Court'), Caergaint.

Y mae gwaith Jenkins fel barnwr uchel-lys yr admiralti yn bwysig iawn yn hanes 'Prize Law'; gyda'r arglwydd Stowell a Syr Samuel T. Evans, teilynga gael ei gyfrif yn un o dri prif adeiladwyr y gangen honno o gyfraith ryngwladol. Yr oedd ei ddedfrydau yn bwysig mewn un ystyr arbennig - yr oeddent yn rhagarwyddo datblygiad yr hyn a elwir yn 'Doctrine of Continuous Voyage.'

Yr oedd y Llywodraeth yn defnyddio Jenkins yn wastadol. Yr oedd yn gynrychiolydd yn y gyngres yn Cologne yn 1673; efe hefyd oedd y cyfryngwr pennaf yn y gyngres yn Nymwegen, 1675-9. O 1680 hyd 1684 yr oedd yn Ysgrifennydd y Wladwriaeth ('Secretary of State'). Bu'n aelod seneddol dros Hythe yn 1671; mewn Seneddau dilynol bu'n cynrychioli Prifysgol Rhydychen. Llwyddodd i gael pasio y ' Statute of Distribution,' 1670; trwy'r ddeddf hon y trinid hyd 1926 eiddo personol personau'n marw heb wneuthur ewyllysiau. Ar ei awgrym ef y rhyddhawyd eiddo milwyr a morwyr oddi wrth y rheolau ffurfiol a osodwyd i lawr yn y ' Statute of Frauds,' 1677. Cynigiodd fod comisiwn parhaol i'w ddewis i benderfynu apelion a wneid i'r Cyfrin Gyngor, eithr ni chafwyd hyn hyd 1833, pryd y sefydlwyd y ' Judicial Committee of the Privy Council,' a bu raid i'w gynnig i wahardd priodasau dirgel aros hyd adeg pasio deddf yr arglwydd Hardwicke yn 1753.

Fel swyddog y Goron yr oedd Jenkins yn gydwybodol a dilwgr. Serch ei fod yn nodedig o ymostyngar yn ei agwedd, yr oedd yn gadarn ar fater yr egwyddor; yn hytrach nag ymostwng i wneuthur yr hyn a ofynnid ganddo ar arch awdurdod arall, cynigiodd ymddiswyddo. Dywed Gilbert Burnet ei fod yn farwaidd ac araf ('dull and slow'). Dangoswyd yn llys brenin Ffrainc, fodd bynnag, nad oedd yn ddiogel i neb fanteisio ar ei ledneisrwydd; pan ofynnodd un o wyr y llys iddo, heb wybod o ba wlad yr oedd, am enghraifft o'i iaith gysefin, yr ateb a gafodd (yn Gymraeg) ydoedd: ' Nid wrth ei big y mae adnabod cyffylog.'

Bu Jenkins farw 1 Medi 1685, a chladdwyd ef yng nghapel Coleg Iesu. Gellir ei ystyried mewn gwirionedd yn ail sylfaenydd y coleg hwnnw. Efe a'i cododd ar ei draed ar ôl yr Adferiad, ac adeiladwyd y llyfrgell bresennol ganddo ef ar ei gost ei hun. Gadawodd yn ei ewyllys ei eiddo mewn tiroedd ac arian i'r coleg, a phan wnaethpwyd cynllun i weinyddu'r gwaddol hynod sylweddol hwn rhoddwyd pwyslais o'r newydd ar agwedd Gymreig y coleg. Gofalodd Jenkins am ysgol ramadeg y Bont-faen hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.