EVANS, Syr SAMUEL THOMAS (1859 - 1918), gwleidyddwr a barnwr

Enw: Samuel Thomas Evans
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Margaret Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidyddwr a barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David James Llewelfryn Davies

Ganwyd ym mis Mai 1859 yn Ysgiwen, Sir Forgannwg, mab John Evans, groser, a Margaret, ei wraig - y tad a'r fam yn bobl o Sir Aberteifi. Ar ôl bod yn y Collegiate School, Abertawe, aeth i Goleg Aberystwyth, gan raddio ym Mhrifysgol Llundain. Dymunai ei rieni iddo fyned i'r weinidogaeth, eithr ni fynnai ef mo hynny a rhwymwyd ef mewn swyddfa cyfreithiwr; pasiodd yn gyfreithiwr yn 1883. Bu'n aelod o gyngor trefol Castell Nedd a chwaraeodd ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth leol. Yn 1890 cafodd ei ethol yn aelod seneddol dros ganolbarth Morgannwg, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth honno yn ddi-fwlch am yr 20 mlynedd dilynol. Oherwydd ei alluoedd naturiol a'i fedr fel dadleuwr, daeth yn flaenllaw ymysg aelodau seneddol Cymru. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1891, a chyn bo hir cynyddodd ei waith fel aelod o gylchdaith De Cymru yn fawr. Gwnaethpwyd ef yn Q.C. yn 1901 - y Q.C. diwethaf yn nheyrnasiad y frenhines Victoria. Yn 1908 dewiswyd ef yn gofiadur Abertawe, a'r un flwyddyn yn 'Solicitor-General.' Yn 1910 daeth yn llywydd y 'Probate, Divorce, and Admiralty Division of the High Court. Yr oedd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ac yn G.C.B.

Pan oedd yn llywydd y ' Prize Court ' yn ystod y rhyfel mawr cyntaf y gwnaeth Syr Samuel Evans enw iddo'i hun fel un o awdurdodau pennaf y dosbarth blaenaf ar gyfraith ryngwladol. Y mae'r mynegiad a wnaeth wrth gychwyn ar ei waith yn yr adran hon o'r gyfraith - 'Precedents handed down from earlier days should be treated as guides to lead and not as shackles to bind' - yn ddangoseg o'r hyn a'i hysbrydolai; daeth gwledydd niwtral y bu raid iddo ddedfrydu yn eu herbyn i gydnabod ei allu i ddatblygu egwyddorion a oedd eisoes yn sefydledig er mwyn cyfarfod â'r newid a achosid gan ryfel fel y dygir ef ymlaen yn yr oes bresennol. Ynghyd â Syr Leoline Jenkins a'r Arglwydd Stowell cyfrifir Evans yn un o adeiladwyr pwysicaf y gyfundrefn a elwir yn ' British Prize Law.'

Bu Evans farw 13 Medi 1918, a chladdwyd ef yn Ysgiwen. Cafodd radd Ll.D. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru (1909); gwnaed ef yn rhyddfreiniwr gan gorfforaethau Abertawe a Chastell Nedd. Y mae cerflun ohono (gan Syr G. Frampton, R.A.) yn y Royal Courts of Justice, Llundain, ac y mae darluniau ohono yn y Middle Temple ac yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Wedi iddo farw codwyd cronfa gyhoeddus (trwy danysgrifiadau) er coffa amdano, a throsglwyddwyd yr arian i Brifysgol Cymru i sefydlu 'Gwobr Samuel Evans' i'w ddyfarnu'n flynyddol i'r myfyriwr gorau yn adran y gyfraith. (Am lawysgrifau ganddo neu yn ymwneuthur ag ef, gweler NLW MS 2231B , NLW MS 2232B , NLW MS 2233B , NLW MS 2234B , NLW MS 2235A , NLW MS , NLW MS 2236C , NLW MS 2237C , NLW MS 2238A , NLW MS 2239A , NLW MS 2240A , NLW MS 2241C , NLW MS 2242D .)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.