KELSALL, JOHN (fl. 1683-1743), Crynwr a dyddiadurwr

Enw: John Kelsall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr a dyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llundain yn 1683. Daeth i Gymru yn 1702, a chadwai ysgol (yr oedd wedi cael addysg dda) yn Nolobran, Maldwyn, gan weithredu hefyd fel clerc yn y gwaith haearn yno dan y Lloydiaid - gweler yr ysgrif ar deulu Lloyd, Dolobran. Bu yng ngwasanaeth y teulu hyd tua 1743, ac anfonid ef hwnt ac yma ynglŷn â'u busnes haearn, e.e. bu'n arolygu eu gwaith yng nghyffiniau Dolgellau yn 1714-20, a thrachefn (yn ysbeidiol) yn 1729-36. Aeth yn ôl yn y byd tua diwedd ei oes, ac wedi crwydro i Fryste ac Iwerddon disgynnodd yng Nghaerlleon Fawr, lle y clywir ddiwethaf amdano. Caiff ei le yn y Geiriadur hwn yn herwydd y dyddiaduron helaeth a gadwodd, sydd heddiw yn y ' Friends' House' yn Llundain, gyda chyfrol o brydyddiaeth a sgrifennodd rhwng 1702 a 1743. Bylchog yw'r dyddiaduron rhwng 1699 a 1712 (er hynny, y mae mynegai i'r rhannau coll ar gael), ond o hynny hyd 1743 (Mai) y maent yn gyflawn. Ac y maent yn ffynhonnell werthfawr, nid yn unig ar helbulon y Lloydiaid ond hefyd ar hanes y gweithiau haearn yng Ngogledd Cymru ac ar hanes y Crynwyr yn y cyfnod hwnnw. Argraffodd Edward Griffith o Ddolgellau ddetholion ohonynt yn Wales (O.M.E.), ii - gweler hefyd Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1940, 75-6. Cyhoeddodd Kelsall hefyd lyfr, The Faithful Monitor, 1726. Ni wyddys pa bryd y bu farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.