Ganwyd yng Nghaernarfon, 20 Ionawr 1837. Bu am dymor byr yn Ysgol Genedlaethol y dref. Prentisiwyd ef yn wehydd. Dechreuodd bregethu yn 1855. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1858, ac i waith cylchdaith yn 1859. Llafuriodd ym Mangor (1859), Lerpwl (1860), Llanfyllin (1861), Llansilin (1863), Tregarth (1866), Lerpwl (Chester Street) (1869), Dinbych (1872), Caernarfon (1875), Caer (1878), y Rhyl (1880), Lerpwl (Shaw Street) (1883), Tregarth (1886), Lerpwl (Mynydd Sion) (1887), Lerpwl (Shaw Street) (1890), Tregarth (1893), Lerpwl (Mynydd Sion) (1896), Bangor (1899). Penodwyd ef yn oruchwyliwr y Llyfrfa (1902). Ymneilltuodd yn 1911, a bu farw 23 Mai 1919. Priododd Mary, merch y Parch. John Williams (Methodistiaid Calfinaidd), Llansilin. Mab iddo oedd John Arthur Jones, gol. Y Calcutta Statesman.
Etholwyd ef yn ysgrifennydd y dalaith (1886), cadeirydd y dalaith (1893), yn aelod o Gant Cyfreithiol ei gyfundeb (1893), llywydd y gymanfa (1900), cynrychiolydd i'r gynhadledd Ecumenaidd Fethodistaidd (1901), llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Gogledd Cymru (1904), a llywydd Mudiad Canmlwyddiant Wesleaeth Gymreig (1900). Traddododd y Ddarlith Daleithiol (1893). Derbyniodd dysteb i ddathlu jiwbili ei weinidogaeth (1909).
Ysgrifennai'n gyson i'r Eurgrawn, o 1863 ymlaen. Cyhoeddodd gofiannau Samuel Davies II a R. T. Owen, Esboniad ar Jeremeia ac Epistolau Ioan, llawlyfr ar Ymneilltuaeth, Y Goleuni Cristionogol, Hanes Wesleaeth Gymreig (4 cyf.). Golygodd Y Winllan (1883-5), a'r Eurgrawn (1902-11). Cynrychiolai'r cyfundeb ym mhob mudiad cenedlaethol, yr oedd yn un o bregethwyr grymusaf ei oes, yn drefnydd eglwysig mawr, ac yn arweinydd cenedlaethol ym mrwydrau addysg dirwestol a gwleidyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.