Ganwyd yn Ninbych, 1818, mab David ac Anne Davies. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1843. Golygodd Y Winllan, 1854-5, a Yr Eurgrawn Wesleyaidd am ddau dymor, 1859-65 a 1875-86. Bu'n ysgrifennydd talaith Gogledd Cymru, 1858-65, ac yn gadeirydd yr un dalaith, 1866-86. Cyhoeddodd gofiant i'r Parch. Samuel Davies y Cyntaf, dan y teitl Samuel Davies a'i Amserau a hefyd Cofiant Thomas Aubrey, 1887. Etholwyd ef yn 1875 yn aelod o'r ' Cant Cyfreithiol ' ('Legal Hundred'). Pan sefydlwyd Coleg y Brifysgol ym Mangor dewiswyd ef yn aelod o gyngor y coleg. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd, difrifddwys, ac yn drefnydd penigamp, wrth natur a thrwy ddisgyblaeth. Rhwng ei synnwyr cyffredin cryf, ei farn gytbwys, ei ddiwylliant, a'i ymroddiad cyson, daeth yn un o brif arweinwyr Wesleaeth Gymreig ei gyfnod. Petai'n rhaid cyfleu ei arbenigrwydd mewn un gair, 'defnyddioldeb' fyddai hwnnw. Bu farw yn Amlwch 7 Mehefin 1891 a'i gladdu yng Nglanadda, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.