DAVIES, SAMUEL (1788 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd

Enw: Samuel Davies
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1854
Priod: Mary Davies (née Twiston)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Cyfeirir ato fel ' Samuel Davies y Cyntaf.' Ganwyd Mehefin 1788 ym Maes-y-groes, plwyf Cilcain, Sir y Fflint. Daeth at grefydd pan oedd yn 13 oed ac ymunodd â'r Methodistiaid Wesleaidd ym Maeshafn, gerllaw yr Wyddgrug. Ym mis Ionawr 1807 danfonwyd ef gan Owen Davies i Sir Aberteifi yn bregethwr teithiol, ac am y 39 mlynedd nesaf bu'n 'trafaelio' mewn gwahanol gylchdeithiau yng Nghymru a hefyd yn Lerpwl a Manceinion. Priododd, 1814, Mary Twiston, Dinbych; bu wyth o blant o'r briodas - pum mab a thair merch. Yn ystod yr adeg yr oedd ym Manceinion, sef 1838-41, collodd, mewn cyfnod o bedwar mis, ei wraig, ei fab ieuengaf, a'i ferch ieuengaf, a bu i hyn, ynghyd â gorweithio, beri iddo golli ei iechyd a methu a'i gael yn ôl yn gyfan gwbl wedi hynny. Daeth yn 'uwchrif' yn 1846 ac wedi iddo ddioddef gan gyfnodau o wendid bu farw 7 Mai 1854, yn Ninbych.

Ar waethaf yr ychydig addysg a gafodd, darllenai'n awchus (eithr mewn cylchoedd cyfyng). Yr oedd yn un hawdd dylanwadu arno, yn ofergoelus, ac yn tueddu i fod yn eithafol ei olygiadau; yr oedd fel rheol yn un cryf ei deimladau - weithiau yn annosbarthus felly. Er mai prin y gellid ei gyfrif yn weinyddwr da, yr oedd yn fugail diwyd a llwyddiannus; gallai ddenu tyrfaoedd i'w wrando, nid yn gymaint yn herwydd ei huodledd (yr oedd ei lais yn gras a'i draddodi yn drwm) ag oblegid nerth ei argyhoeddiadau a'i ddawn i egluro athrawiaethau crefydd. Y mae iddo le pwysig yn hanes cynnar Methodistiaeth Wesleaidd gynnar Cymru fel amddiffynnwr gwresog a di-ildio i Arminiaeth yn y pulpud a thrwy gyfrwng y Wasg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.