JONES, SAMUEL (1628 - 1697), Brynllywarch, Sir Forgannwg, gweinidog Anghydffurfiol ac athro

Enw: Samuel Jones
Dyddiad geni: 1628
Dyddiad marw: 1697
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Anghydffurfiol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn ardal y Waun, sir Ddinbych, mab John Roberts o Gorwen. Mabwysiadodd enw cyntaf ei dad yn gyfenw iddo'i hun. Ni wyddys ddim am ei addysg yn ei ieuenctid. Ymaelododd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen; bu'n gymrawd o Goleg Iesu yn yr un brifysgol ac yn athro yno. Cymerth urddau eglwysig yn Taunton, Gwlad-yr-haf, a phenodwyd ef yn ficer Llangynwyd, Morgannwg, tua 1657. Priododd ferch Rees Powell, gŵr o safle a dylanwad yn y cylch. Gwrthododd blygu i Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662 a difuddiwyd ef o'i fywoliaeth. Symudodd i fyw i Brynllywarch yn yr un plwyf, a chychwyn academi yno a ddaeth i fri mawr. Er yn bregethwr gwych, nid âi ar daith fel llawer o'i gyfoeswyr. Fel ysgolhaig a gŵr o ddiwylliant uchel, cysegrai ei amser a'i alluoedd i hyfforddi gwŷr ieuainc ar gyfer y weinidogaeth. Brynllywarch oedd ' Prifysgol Proffwydi Anghydffurfiaeth ' gynnar. Cyfrannodd y Bwrdd Presbyteraidd a'r Bwrdd Annibynnol yn hael at gynhaliaeth myfyrwyr Brynllywarch; ymhlith y rhain yr oedd Samuel Price, cynorthwywr Dr. Watts yr emynydd, Rice Price (tad Dr. Richard Price, James Owen, a Philip Pugh. Yr oedd yn Anghydffurfiwr goleuedig ac argyhoeddiadol, eangfrydig ei farn, a goddefgar ei ysbryd. Ar waethaf pob apêl i'w berswadio i gydymffurfio cadwodd yr hyn a roed ato hyd y diwedd. Erys ei ohebiaeth ag esgob ac archddiacon Llandaf a'i lythyr at gyfaill yn ddogfennau hanesiol. Dan Ddeddf Goddefiad 1672 sicrhaodd amryw drwyddedau i gynnal cyrddau a phregethu fel Presbyter ac Annibynnwr. Iddo ef nid oedd nemor wahaniaeth rhwng y ddau, fwy nag i Stephen Hughes a Daniel Higgs yr Annibynwyr a'i cymeradwyodd. Nid oes sail i gredu ei fod yn un o feirdd Tir Iarll. Bu farw Gorffennaf 1697 yn fawr ei barch gan fonedd a gwreng.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.