EVANS, JOHN (c. 1680 - 1730), gweinidog Presbyteraidd a diwinydd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: c. 1680
Dyddiad marw: 1730
Rhiant: Katherine Powell (née Gerard)
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab John Evans (1628 - 1700) a Katherine, gweddw Vavasor Powell a merch y cyrnol Gilbert Gerard, rheolwr castell Caer dros Siarl I. Ganed y mab yn Wrecsam. Cafodd ei addysg yn ysgolion yr Anghydffurfwyr yn Newington Green a Rathmell (swydd Efrog), a bu'n astudio gwaith y tadau cynnar o dan James Owen, Croesoswallt. Daeth yn gaplan i Mrs. Rowland Hunt, Boreatton, Swydd Amwythig, ac ychydig cyn marw ei dad aeth i'w gynorthwyo i ofalu am yr ' Old Meeting ' (Annibynwyr a Bedyddwyr) yn Wrecsam. Gwahoddwyd ef gan y cynulliad i ddilyn ei dad; mynnai ef iddynt gytuno i gael gan y ' New Meeting ' (y Presbyteriaid) uno â'r ' Old Meeting,' a phan welwyd na wneid mo hyn ymddengys iddo dderbyn galwad a gafodd gan y ' New Meeting.' Ordeiniwyd ef yn Wrecsam ar 18 Awst 1702 - yr oedd Matthew Henry, Caer, James Owen, Croesoswallt, a Francis Tallents, Amwythig, ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y gwasanaeth ordeinio. Yn 1704 daeth yn fugail cynorthwyol i Dr. Daniel Williams yn Hand Alley, Llundain, a phan fu farw Dr. Williams yn 1716 dilynodd Evans ef fel bugail. Bu iddo ran amlwg (ar yr ochr 'uniongred') yn y ddadl Ariaidd yn 1719, eithr yr oedd yn wastad yn oddefgar ym mater athrawiaeth. Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr y 'Regium Donum' (1723) ac efe a arweiniodd y ddirprwyaeth a aeth i longyfarch Siôr II ar ei esgyniad.

Ysgrifennodd Evans lawer o lyfrau diwinyddol (gweler restr ohonynt yn D.N.B.) a chafodd radd D.D. gan Brifysgol Edinburgh - eithr nid gan Aberdeen (fel y dywedir yn D.N.B.) na chan Glasgow (fel y dywed Palmer). Casglodd (eithr heb gael byw i'w defnyddio) ddefnyddiau hanes Piwritaniaeth - y mae rhai ohonynt yn llyfrgell Dr. Williams, Llundain; casglodd hefyd ffigurau ynglyn ag Anghydffurfiaeth o 1717 hyd 1729. Collodd lawer o arian oblegid y ' South Sea Bubble ' (1720), a bu farw, 'but in mean circumstances,' 23 Mai 1730, eithr gadawodd tua 10 mil o lyfrau sydd yn awr yn llyfrgell Dr. Williams, lle y mae ei ddarlun hefyd. Fe'i claddwyd yng nghell gladdu Dr. Williams yn Bunhill Fields. Yr oedd ei wraig yn ferch i weinidog a drowyd allan yn 1662.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.