DAVIES, TOM EIRUG ('Eirug '; 1892 - 1951), gweinidog (A), llenor a bardd

Enw: Tom Eirug Davies
Ffugenw: Eirug
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1951
Priod: Jennie Davies (née Thomas)
Plentyn: Eleri Eurig Morgan (née Davies)
Plentyn: Alun Eirug Davies
Rhiant: Mary Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A), llenor a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gerallt Jones

Ganwyd yn ffermdy Troed-y-rhiw, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, 23 Chwefror 1892, unig fab John a Mary Davies. Bu'n gweithio ar y fferm hyd nes yr oedd yn 18 oed, ac yna cymhellwyd ef i bregethu. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Gwernogle, ysgol baratoi Tremle, Pencader, 1910-12, Coleg y Brifysgol a Choleg (A) Bala-Bangor, ym Mangor 1912-19. Graddiodd yn B.A. (anrhydedd athroniaeth) a B.D. Cyfeiriodd y Prifathro Thomas Rees ato fel 'un o'i fyfyrwyr disgleiriaf'. Derbyniodd radd M.A. yn 1931 am draethawd ar gyfraniad Gwilym Hiraethog i fywyd a llên ei gyfnod. Bu'n weinidog ar eglwysi Cwmllynfell, 1919-26, a Soar, Llanbedr Pont Steffan a Bethel, Parc-y-rhos, 1926-51. Cynhaliodd ddosbarthiadau tan adran allanol y Brifysgol a dôi amryw ato i'w dŷ (yng Nghwmllynfell yn arbennig) i'w paratoi at fynd i'r weinidogaeth. Pregethwr a bardd o ddawn arbennig ydoedd - prifardd y goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan, 1932 ('A ddioddefws a orfu') a Chastell-nedd, 1934 ('Y gorwel') - ac enillodd amryw wobrwyon eraill (gweler rhagymadrodd 'Diolchiadau' Cerddi Eirug (1966)). Bu'n feirniad droeon yn yr ŵyl, ac adnabyddid ef yng Ngorsedd y Beirdd fel ' Eirug '.

Golygodd Ffrwythau dethol (Ben Davies, Pant-teg) a Cofiant Thomas Rees (ei hen brifathro ym Mala-Bangor). Cyhoeddodd hefyd Hanes yr Eglwys yn oes y Testament Newydd (1932), hanes Soar, Llanbedr Pont Steffan (1931), a Bethel, Parc-y-Rhos (1940), a hanes capel Gwernogle (1949). Cyfrannodd erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd (1926) a phenodau ar Philip Pugh a'i ragflaenwyr yn Y Cofiadur, 1937, ac ar ' Ffydd yr Annibynwyr ' yn Ffyrdd a ffydd (1945). Golygodd Y Dysgedydd o 1943 i 1951, a'i gyfraniadau yn waith meddyliwr a llenor disglair wrth draethu ar bob rhyw faterion; am gyfnod bu ei nodiadau'n troi o gwmpas ' Gwarnogau '-ei hen ardal yn sir Gâr. Casglwyd y rhain a'u cyhoeddi'n llyfr Yr hen gwm (1966), tan olygiaeth un o'i feibion, Alun Eirug Davies.

Priododd yn 1920 â Jennie Thomas (cyd-efrydydd ag ef ym Mangor), merch hynaf R.H. Thomas, gweinidog (MC) Llansannan, a chawsant 8 o blant. Cafodd Eirug a'i briod ill dau frwydr hir yn erbyn afiechyd yng nghanol eu dyddiau. Bu hi farw yn 1948, ac yntau ar 27 Medi 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.