Ganwyd yn y Ddolgam, Cwmllynfell, 1864. Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref a bu yn y gwaith glo o 13 i 21 oed. Dechreuodd farddoni yn ieuanc, gan ennill yn aml yn y cyfarfodydd llenyddol a'r eisteddfodau; meistrolodd y gynghanedd yn 13 oed, ac enillodd gadair Tredegar am awdl, ' Rhinwedd,' yn 21 oed. Aeth i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin, 1885, a bu yng Ngholeg y Bala, 1886-8. Bu'n weinidog Bwlchgwyn a Llandegla, 1888-91, a Phanteg, Ystalyfera, 1891-1926.
Daeth yn amlwg fel un o'r 'Beirdd Newydd,' 1890-6. Enillodd brif wobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol - y goron (hanner y wobr) yn Rhyl, 1892, Pontypridd, 1893, Caernarfon, 1894, a'r gadair yn Llandudno, 1896. Cyhoeddodd gyfrol o ganeuon, Bore Bywyd, yn 1896. Dringodd yn gyflym i fod yn un o brif bregethwyr ei enwad. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr ym Machynlleth yn 1928, a thraddododd anerchiad ar 'Yr Antur Ysbrydol.' Darlithiodd lawer ar Ann Griffiths, Twm o'r Nant, Watcyn Wyn, etc. Argraffwyd amryw o ysgrifau o'i waith yn Y Geninen, Y Dysgedydd, a chyhoeddiadau eraill. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn Llundain gyda'i blant gan bregethu hyd y diwedd. Bu farw 2 Ionawr 1937.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.