Ganwyd 30 Mai 1869 yn Nolaeron, Llanfyrnach, Sir Benfro. Ni phriodasai ei rieni, a magwyd ef ar aelwyd Benni a Mattie Rees, y Waenfelen, Crymych, a chan mai Annibynwyr oeddynt hwy dygwyd ef i fyny yn eglwys Antioch er mai Bedyddwyr selog oedd teulu ei fam. Hyd yn 10 oed mynychai ysgol ddyddiol Bethel, Mynachlog Ddu, ac wedi hynny oherwydd symud o'r teulu aeth i ysgolion Blaenffos a Hermon. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Antioch, Chwefror 1884. Cyn bod yn 13 oed aeth i weithio ar ffermydd yn y gymdogaeth, eithr canfuwyd cyn hir fod trech diddordeb ganddo mewn llyfr nag yng ngwaith y tir. Yn nechrau 1888 aeth i weithio i waith glo yn Aberdâr ac yno cafodd awyrgylch wrth ei fodd yn y gwaith ac yn arbennig yn eglwys Ebeneser, Trecynon. Dechreuodd bregethu yno 19 Hydref 1890; yr oedd eisoes wedi cychwyn yn ysgol Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf, a oedd dan ofal y Parch. Lewis Evans, a phan roes ef hi i fyny aeth Rees i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, a gedwid gan Evan Jones. Ym Mehefin 1891 derbyniwyd ef ar ben y rhestr i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin a'r flwyddyn ddilynol pasiodd ' matriculation ' Prifysgol Llundain. Enillodd hefyd ysgoloriaeth y Drapers' Company (£35), ac aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, lle'r enillodd radd B.A. ac, yn 1896, M.A. (Llundain) mewn athroniaeth. Enillasai yno hefyd ysgoloriaeth Dan Isaac Davies mewn Cymraeg. Yn ôl y prifathro Viriamu Jones, ef oedd y myfyriwr galluocaf a fuasai yng Nghaerdydd hyd hynny. Yn Hydref 1896 enillodd ysgoloriaeth (£60) i Goleg Mansfield, Rhydychen, lle'r oedd y Dr. Fairbairn yn bennaeth. Yno cipiodd wobr Mill Hill ac ysgoloriaeth y Dr. Williams (£50) a graddiodd gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth yn 1899. Yn Chwefror 1899 apwyntiwyd ef i gadair ddiwinyddol y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac ym Mai urddwyd ef yn weinidog a bu'n bwrw golwg dros eglwysi Bethania ac Ebeneser, Capel Uchaf, gerllaw Aberhonddu. Ymdaflodd i fywyd cyhoeddus sir Frycheiniog fel Rhyddfrydwr pybyr; cyf-etholwyd ef yn aelod o'r cyngor addysg a daeth yn gadeirydd iddo. Penodwyd ef yn brifathro Coleg Bala-Bangor 14 Ebrill 1909, ac yno y bu hyd ei farw.
Gosodasai ei fryd ar godi safon astudio diwinyddiaeth yng Nghymru a thrwy hynny sicrhau grymusach gweinidogaeth i'r eglwysi. Llwyddodd i ennill diddordeb a chydweithrediad Syr Harry Reichel mewn ymgyrch i newid siarter Prifysgol Cymru modd y gellid dwyn diwinyddiaeth i mewn fel pwnc astudiaeth. Yn 1922 cafwyd ' Supplementary Charter ' i Goleg y Gogledd a sefydlwyd Ysgol Ddiwinyddol Bangor.
Yn ystod rhyfel 1914-8 daeth i amlygrwydd mawr drwy'r wlad fel heddychwr digymrodedd, a chafodd deimlo grym erledigaeth. Penodwyd ef yn olygydd Y Deyrnas, misolyn a gyhoeddwyd gan nifer o heddychwyr o Hydref 1916 i Dachwedd 1919.
Cydnabu Prifysgol Llundain ei waith, The Holy Spirit, â gradd Ph.D. Ef a gychwynnodd y syniad am y pwyllgor Cymraeg, sef y pwyllgor adrannol a benodwyd 'i chwilio i safle'r Gymraeg yng Nghyfundrefn Addysg Cymru, etc.', eithr bu farw fel na chafodd gyfle i roddi ei gyfraniad i'r adroddiad. Ef oedd golygydd Y Dysgedydd er Tachwedd 1924. Ei orchestwaith fel golygydd, ond odid, oedd ei waith fel prif olygydd Y Geiriadur Beiblaidd (Tachwedd 1924 - Hydref 1926), a chydnabyddir mai i'w ynni a'i ddyfalwch ef yn bennaf y dylid priodoli llwyddiant y gwaith hwn. Bu farw yn Llundain, 20 Mai 1926, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.
Yn ychwanegol at amryw bamffledau ac ysgrifau a frithai gyfnodolion, cyhoeddodd: Duw: Ei Fodolaeth a'i Natur, 1910; Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid (dwy gyfrol), 1912, 1913; The Holy Spirit in Thought and Experience, 1915; Cenadwri'r Eglwys a Phroblemau'r Dydd, 1923; Gwleidyddiaeth yng Nghymru, 1924; Paham yr wyf yn Brotestant, Ymneilltuwr, ac Annibynnwr, 1911.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.