Ganwyd 11 Hydref 1856 yn Belfast, mab i Charles Parsons Reichel, athro Lladin yn Queen's College ac esgob Meath wedi hynny. Addysgwyd ef yn Christ's Hospital a Choleg Balliol, Rhydychen; etholwyd ef yn gymrawd yng Ngholeg All Souls, ac yn ddarlithydd mewn hanes diweddar. Priododd Charity Mary Pilkington, o swydd Westmeath, Iwerddon. Yn 1884 penodwyd ef yn brifathro cyntaf Coleg y Gogledd, Bangor, a bu yno nes ymddiswyddo yn 1927. Gyda chymorth nifer o ysgolheigion ieuainc, galluog - yn eu plith Henry Jones a W. Rhys Roberts - gosododd safonau teilwng ac adeiladodd ar sylfeini cedyrn. Y datblygiadau a brisiodd fwyaf oedd yr adrannau amaethyddiaeth, coedwigaeth, a cherddoriaeth, a'r ysgol ddiwinyddiaeth a ddug at ei gilydd athrawon o Goleg y Brifysgol a'r colegau enwadol ym Mangor. Gyda J. Viriamu Jones, bu iddo ran flaenllaw yn sefydlu Prifysgol Cymru yn 1893, a bu yn is-ganghellor iddi chwe gwaith. Mynnodd gael prifysgol a roddai'r prif bwys ar addysgu ac ymchwil yn hytrach nag arholi, a chafodd gryn fesur o hunan-lywodraeth i'r gwahanol golegau. Urddwyd ef yn farchog yn 1907 ar achlysur gosod carreg sylfaen adeiladau newydd y coleg gan y brenin Edward VII. Ymwelodd sawl gwaith â Sweden, aeth gyda chomisiwn Moseley i'r Taleithiau Unedig yn 1903, i Awstralia gyda'r Gymdeithas Brydeinig ('The Royal Society') yn 1914, ac yr oedd yn un o'r ddau ddirprwywr a ymwelodd â New Zealand yn 1925 i gynghori ar gyfundrefn i'w phrifysgol. Ni adawodd ond ychydig o ysgrifau byrion, a'r rheini ar bynciau achlysurol ac ar rai o'i gydweithwyr. Cofir amdano fel un o brif gynllunwyr Prifysgol Cymru, ac fel gŵr unplyg, cadarn ei argyhoeddiadau, heb odid rithyn o uchelgais personol. Llwyddodd i ddysgu Cymraeg yn weddol dda. Bu farw yn Biarritz, 22 Mehefin 1931, a'i gladdu yn Whitechurch, Rathfarnham, ger Dulyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.