DAVIES, DAN ISAAC (1839 - 1887), un o arloeswyr dysgu Cymraeg yn yr ysgolion

Enw: Dan Isaac Davies
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1887
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr dysgu Cymraeg yn yr ysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 24 Ionawr 1839 yn Llanymddyfri, yn fab i Isaac Davies, hetiwr (o Landybïe), a'i wraig Rachel Charles. O Ysgol Frutanaidd Llanymddyfri aeth i goleg hyfforddi Borough Road, ac yn 1858 cafodd Ysgol y Comin, Aberdâr, lle y torrodd dir newydd drwy annog ei gynorthwywyr i ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith. Yn 1867, trosglwyddodd Evan Davies (1826 - 1872) ei ysgol yn Abertawe iddo, ond yn 1868 penodwyd ef yn arolygydd cynorthwyol ar ysgolion; symudwyd ef yn 1870 i Cheltenham ac yn 1877 i Fryste. Yn 1882 penodwyd ef i gynorthwyo William Edwards (1851 - 1940) yn rhanbarth Merthyr Tydfil, ond nid cyn 1883 y symudodd i Gymru - i Gaerdydd. Yr oedd ei alltudiaeth wedi cryfhau ei gariad at ei iaith, a bellach awyddai i'r Gymraeg gael ei dysgu (nid ei harfer yn unig) yn yr ysgolion. Yn yr union adeg honno, cychwynnwyd mudiad o gyffelyb amcanion gan Gymdeithas y Cymmrodorion, gyda chefnogaeth yr athro Thomas Powel (1845 - 1922). Siaradodd Davies ar y pwnc yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl (1884), darllenodd bapur arno i'r Cymmrodorion yn Llundain (1885), a chyhoeddodd gyfres o ysgrifau yn Y Faner (1885), a ail argaffwyd (1885, 1886) dan y teitl Tair Miliwn o Gymry Dwy-ieithawg. Yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr yn 1885 bu ganddo ran yng nghychwyniad y 'Gymdeithas i Ddefnyddio'r Iaith Gymraeg,' a elwir heddiw'n 'Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.' Llwyddodd yn 1886 (trwy ei bennaeth William Edwards i gael cydnabod Cymraeg yn bwnc y telid grant am ei ddysgu yn yr ysgolion. Paratôdd femorandwm ar addysg ddwy-ieithog, i'w gyflwyno i'r Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Elfennol yng Nghymru, yn 1886 eto, a rhoes dystiolaeth o flaen y ddirprwyaeth. Yn ei hadroddiad, mabwysiadodd y ddirprwyaeth y rhan fwyaf o argymhellion y memorandwm (1888), ond cyn i'r adroddiad ymddangos, yr oedd Davies wedi marw, 28 Mai 1887. Bu'n briod ddwywaith, a gadawodd weddw a phlant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.