Ganwyd 22 Ionawr 1851 yn Ninbych ac addysgwyd ef mewn ysgol breifat yno, yn y Liverpool Institute, a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle y cafodd yrfa athrofaol ddisglair iawn. Enillodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiadau yn yr ieithoedd clasurol a elwir 'Moderations' a 'Greats,' ac hefyd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Etholwyd ef yn gymrawd o Goleg: Iesu, Rhydychen, ac yn 1925 anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru â'r radd fygedol o LL.D.
Bu yn athro mewn ysgol am ychydig amser; yna yn 1877 penodwyd Dr. Edwards yn arolygwr ysgolion Ei Fawrhydi, ac am 38 mlynedd cyflawnodd wasanaeth ffyddlon a gwerthfawi yn arolygu ac ysbrydoli addysg elfennol Morgannwg.
Yn 1915, pan gyrhaeddodd oed ymddiswyddo fel swyddog dan y Bwrdd Addysg, gwahoddwyd ef gan Fwrdd Canol Cymru dros Addysg Ganolraddol i ddilyn Owen Owen fel prif arolygwr. Bu yn ddigon hunan-ymwadol i dderbyn y swydd, ac felly aberthu'r hamdden a haeddai gymaint. Yr oedd ei wasanaeth i'r Bwrdd Canol mor werthfawr fel y'i cadwyd yn ei swydd hyd 1926. Dengys ei ysgrif ' The Settlement of Brittany ' (Cymm., xi, 61-101) pa fath ddefnydd y gallasai ei wneud o'r hamdden a aberthwyd i'w swyddi.
Yr oedd Dr. Edwards yn ddyn o gyfansoddiad haearnaidd, ac yn dal ac urddasol ei olwg. Parhâi i fyfyrio problemau addysg yn eiddgar, ac ysgrifennodd nifer o bamffledi a phapurau arnynt. Achosodd pamffledyn a ysgrifennodd yn 1929 ddiddordeb cyffredinol. Galwyd ef Cynllun Newydd (A New Plan), ac ymdriniai a mater sydd bob amser yn creu diddordeb, sef 'Tystysgrif Ysgol.' 'Dylai tystysgrif ysgol,' awgrymai, 'gael i roddi i bob disgybl, ac arno wybodaeth am werth ei waith a gymerodd yn yr arholiad.'
Ar hyd ei breswyl ym Merthyr Tydfil cymerai ef a'i wraig (née Steinhal) ran brysur ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y dref a'r cylch. Bu farw 12 Chwefror 1940 ym Merthyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.