Ganwyd ym mhlwyf Llaniestyn, Llŷn, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Botwnnog gyda'i gefnder John Owen (esgob Tyddewi yn ddiweddarach). Ymrestrodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddiodd gydag anrhydedd yn y clasuron yn 1877. Yn ei ieuenctid cymerai ddiddordeb eiddgar mewn cerddoriaeth. Oddeutu 1878 aeth yn brifathro ar ysgol breifat yng Nghroesoswallt. Llwyddodd yr ysgol yn fawr a daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel yr 'Oswestry High School,' gan ddenu, oherwydd yr enw da oedd iddi, ddisgyblion o bob rhan o'r wlad. Daeth llawer ohonynt yn arweinwyr ym mywyd cyhoeddus Cymru. Yr oedd Owen pan yng Nghroesoswallt yn ustus heddwch, yn wleidyddwr amlwg, ac yn un o arweinwyr y frwydr dros Ddatgysylltiad. O 1890 i 1893 yr oedd yn un o ddau ysgrifennydd y cynadleddau unedig a luniodd gynlluniau addysg siroedd Cymru dan Ddeddf Addysg 1889. Yn 1896 sefydlwyd Bwrdd Canol Cymru ac yn 1897 penodwyd Owen yn brif arolygwr cyntaf y Bwrdd, swydd a lanwodd gyda medr a ffyddlondeb dihafal hyd 1915, pan orfu iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd. Bu farw 14 Mawrth 1920 ym Mae Colwyn a chladdwyd ym mynwent Llandrillo-yn-Rhos.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.