Ganwyd yn yr Ysgubor Wen, Llanengan, Llŷn, 24 Awst 1854, mab Griffith Owen ac Ann ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Botwnnog, ac yn 1872 enillodd ysgoloriaeth mewn mathemateg i Goleg Iesu, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron ac mewn mathemateg, a hefyd yn yr arholiad terfynol mewn mathemateg yn 1876 (B.A. 1876, M.A. 1879). Bu'n athro yn ysgol ramadeg Appleby am dair blynedd, a dychwelodd i Gymru yn 1879 yn athro Cymraeg a darlithydd yn y clasuron yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Urddwyd ef yn ddiacon yr un flwyddyn gan yr esgob Basil Jones, ac yn offeiriad yn 1880. Bu am chwe mlynedd yn Llanbedr Pont Steffan cyn mynd i Lanymddyfri yn 1885 yn olynydd i A. G. Edwards fel warden y coleg. Pan godwyd hwnnw'n esgob Llanelwy yn 1889, penododd John Owen yn ddeon, ond ar ôl tair blynedd yn Llanelwy dychwelodd John Owen i Goleg Dewi Sant yn brifathro. Dyrchafwyd ef yn esgob Tyddewi yn 1897, a daliodd y swydd hyd ei farw yn Llundain 4 Tachwedd 1926. Yr oedd John Owen yn Gymro trwyadl o ran iaith a dyhead. Er ei fod yn ddadleuwr dan gamp, ni fennai hyn ddim nac ar ei barch i'w wrthwynebwyr nac ar yr eiddynt hwythau iddo yntau. Cymerai ddiddordeb mawr yng nghyfundrefn addysg Cymru a'i datblygiad, ac un o'i weithredoedd cyhoeddus olaf (ar wahân i'w ddyletswyddau eglwysig) ydoedd llywyddu ar y pwyllgor adrannol a gyhoeddodd yn 1927 yr adroddiad ar Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd. Bu mewn cysylltiad agos hefyd â'r eisteddfod genedlaethol ac â Chyngor Cymreig Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Priododd, 1882 Amelia, merch J. Longstaff, Appleby; bu iddynt bedwar mab a chwe merch a bu hi fyw ar ei ôl. Claddwyd ef yn Abergwili; y mae cerflun ohono yng Nghapel Mair yn eglwys gadeiriol Tyddewi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.