LEWIS, MORGAN JOHN (c. 1711 - 1771), neu JONES, MORGAN, emynydd, a chynghorwr Methodistaidd

Enw: Morgan John Lewis
Dyddiad geni: c. 1711
Dyddiad marw: 1771
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd, a chynghorwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd c. 1711, brodor o Gwm Ebwy-fawr, Aberystruth, Mynwy. Cafodd dröedigaeth dan weinidogaeth Howel Harris, c. 1738, ac ymneilltuodd o gymun Eglwys Loegr, fe ddywedir, pan waharddwyd Daniel Rowland rhag pregethu yn eglwys Aberystruth. Dechreuodd ganu emynau, a daw i'r golwg fel un o emynwyr cynnar y deffroad Methodistaidd. Ceir emyn o waith 'Morgan Jones o Flauneu gwent' yn Llwybur Hyffordd ir Cymru (Mwythig, 1740). Ef ac Edmund Williams, Cwm Tyleri, a gyhoeddodd Hymnau Duwiol o Gasgliad Gwyr Eglwysig M.J. ac E.W. (Pontypŵl, 1741). Ceir emyn o'i waith hefyd yn Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies (Bryste), llyfryn o gyhoeddiad yn sasiwn Fethodistaidd, 1742. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, a phenodwyd ef yn gynghorwr cyhoeddus yn sasiwn Watford, 1743; yn ddiweddarach, gwnaed ef yn olygwr ar nifer o seiadau. Yr oedd yn bregethwr byw a phoblogaidd, ac yn ŵr o ddylanwad ymhlith ei frodyr. Yr oedd yn flaenllaw gyda'r blaid a fynnai gefnu ar Eglwys Loegr. Bu'n ffafriol i Howel Harris yn yr anghydfod rhyngddo â Daniel Rowland, ond ar ôl sasiwn Llanidloes, 1751, fe droes o blaid Rowland. Ar gyngor Rowland, fe ddywedir, yr ordeiniwyd ef yn weinidog gan y seiat yn New Inn, plwyf Pantteg, Mynwy, yn null yr Annibynwyr. Bu'r ordeiniad ar y Llungwyn, 1756, a chreodd yr helynt gryn gyffro ar y pryd. Bu farw o dan amgylchiadau trist yn nechrau'r flwyddyn, 1771.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.