Ganwyd ym mhlwyf Llanegwad, Sir Gaerfyrddin, 1674. Hanoedd o deulu cefnog ei amgylchiadau. Daeth i'r eiddo a bu fyw ar ei dir ei hun ar hyd ei oes. Tybir iddo fod yn ysgol William Evans ym Mhencader neu Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhanteg ac yno y dechreuodd bregethu. Yr oedd yn 14 oed pan fu farw Stephen Hughes a'r cof amdano'n fflam fyw yn yr eglwys. Pan ymddeolodd Thomas Bowen o'r weinidogaeth ym Mhanteg yn 1707, cydnabuwyd Christmas Samuel yn weinidog (heb urddau) ar yr achos. Bu llwyddiant mawr ar ei waith. Yn ei adroddiad o'i ymweliad â Llanegwad yn 1710, galwodd yr archddiacon Tenison ar y plwyfolion i ymwregysu i atal cynnydd yr achos llewyrchus ym Mhanteg. Ar 23 Medi 1711, derbyniodd Christmas Samuel alwad oddi wrth aelodau o bum plwyf i fod yn weinidog Panteg. Urddwyd ef yr un dyddiad, yr urddiad mwyaf annibynnol- Annibynnol y clybuwyd amdano. Aeth o nerth i nerth yn ei lafur a'i ddylanwad ac adeiladu eglwys gref yn y traddodiad Annibynnol. Ei gyd-lafurwr am dymor hir oedd Milbourne Bloom. Rhoes ei nawdd dros amryw o achosion bychain. Yr oedd yn gefn i bob mudiad dyrchafol a llesol mewn cymdeithas ac eglwys; pleidiai'n selog ysgolion Griffith Jones, ac yr oedd yn un o noddwyr pennaf y dadeni llenyddol rhwng Tywi a Theifi ddiwedd yr 17eg ganrif a hanner cyntaf y 18fed. Cysylltir ei enw ag argraffwaith Isaac Carter yn Nhrefhedyn. Bu ganddo law arbennig mewn cyhoeddi llyfrau, megis Gemau Doethineb, 1714; Llythyr at y Cyfryw o'r Byd, 1716; Catecism o'r Scrythur, 1719; Llun Agrippa, 1723; Golwg ar y Testament Newydd, 1729; Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol, 1730; ac eraill. Bu farw 18 Mehefin 1764, yn 90 oed. Bu'n ddall yn ei bum mlynedd olaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.