BLOOM, MILBOURN (bu farw 1766), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Milbourn Bloom
Dyddiad marw: 1766
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef; honna traddodiad ei fod yn un o deulu Castell Pigyn (Abergwili); yn ôl NLW MS 5456A gellid cerdded o'i gartref i Gaerfyrddin o fewn yr awr. Daw i'r golwg ym Mawrth 1743 (Recordiau Cymdeithasfa'r M.C. yn Ll.G.C.) fel 'cynghorwr cyhoeddus' (h.y. teithiol), ac yr oedd yn arolygwr seiadau y tu isaf i Dywi. Ond ym Medi yn yr un flwyddyn cefnodd ar y Methodistiaid (llythyr 973 yng nghasgliad Trefeca, a llythyr arall a argraffwyd ar t. 270 o Life of Howell Harris, H. J. Hughes), a throes ei wyneb at y weinidogaeth Annibynnol; derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Christmas Samuel yn y Pant Teg ar 13 Medi 1743 (Cofiadur 1953, 54). Y mae cyfeiriadau ato yn nyddiadur Thomas Morgan (NLW MS 5456A yn Ll.G.C.) ar hyd 1744. Ar 26 Medi 1745 (Llyfr eglwys y Cilgwyn, yn Y Cofiadur, 1923), urddwyd ef i gynorthwyo Samuel. Yr oedd yn fugail ar Ben-y-graig o 1748 hyd 1757, ac yn 1757 dengys recordiau'r Bwrdd Presbyteraidd ei fod yn y Gwernogle; symudodd oddi yno i Bentre-ty-gwyn yn yr un flwyddyn. Bu farw, meddai ei gyfaill Thomas Morgan, yn 1766.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.