CARTER, ISAAC (bu farw 1741), argraffydd a gaiff y clod o sefydlu'r wasg argraffu barhaol gyntaf yng Nghymru

Enw: Isaac Carter
Dyddiad marw: 1741
Priod: Ann Carter (née Lewis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a gaiff y clod o sefydlu'r wasg argraffu barhaol gyntaf yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Sefydlodd Carter ei wasg yn Atpar (a elwid hefyd yn ' Trefhedyn') ym mhlwyf Llandyfriog, Sir Aberteifi, sef yn y rhan honno o dref Castellnewydd Emlyn sydd ar ochr Sir Aberteifi i afon Teifi. Yn 1718 y daeth y pethau cyntaf allan o'r wasg, sef dwy faled - Cân o Senn i'w hen Feistr Tobacco, gan Alban Thomas, a Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a'i Chynheddfau, y ddau gyhoeddiad yn nodedig o brin (copïau yn Ll.G.C.). Daeth tri gwaith arall o wasg Adpar (Trefhedyn), sef Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa, 1719, Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol, 1722, a Y Christion Cyffredin … 1724.

Trosglwyddwyd y wasg i dref Caerfyrddin c. 1725, ac oddi yno y cafwyd Maddeuant i'r Edifairiol, 1725, Gwaith a Gwobr Ffyddlon Weinidogion yr Efengyl, 1729, Llythyr Bugeilaidd, 1729, Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol, 1730, Tarian Cristnogrwydd, 1733.

Priododd Carter Ann Lewis yng Nghenarth ar 11 Ionawr 1721; claddwyd ef yn eglwys S. Pedr, Caerfyrddin, ar 4 Mai 1741.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.