Gŵr o'r Rhos, Blaenporth, Sir Aberteifi, a churad Blaenporth a Thremain, 1722-40. Yr oedd yn flaenllaw yn yr adfywiad llenyddol yng Nghastellnewydd Emlyn a'r cylch yn niwedd y 17eg ganrif a dechrau'r ganrif ddilynol; am fanylion gweler Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales, a'r cyfeiriadau a roddir yno. I lyfryddwyr y mae Alban Thomas o ddiddordeb fel awdur Cân o Senn i'w hên Feistr Tobacco, 1718, sef un o'r ddau waith cyntaf (dwy faled) a argraffodd Isaac Carter yn ei wasg yn Nhrefhedyn (sef Adpar), yng ngwaelod Sir Aberteifi. Drosto ef (' A. T. ') a 'J. Ll.' yr argraffodd Carter (yn 1722) Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol … Gwedi ei Gyfieithu i'r Gymraeg; Alban Thomas oedd cyfieithydd y llyfr, a gyflwynwyd ganddo i Stephan Parri, Neuadd Trefawr, aelod seneddol, a Walter Llwyd o Goedmor, siryf sir Aberteifi. Ef hefyd oedd cyfieithydd Llythyr Bugeilaidd oddi wrth Weinidog at ei Blwyfolion , 1729, a argraffwyd gan Carter wedi iddo symud ei wasg i Gaerfyrddin. Ceir caniadau ganddo, yn y mesurau caeth a'r mesurau rhydd, yn Llanstephan MS 133 , a Llanstephan MS 145 , NLW MS 5A a NLW MS 19B ; defnyddiwyd NLW MS 19B gan John Howell ('Ioan ab Hywel') pan oedd yn paratoi Blodau Dyfed (Caerfyrddin, 1824) (gweler hefyd Tonn MS. 16 yn Llyfrgell Dinas Caerdydd).
Mab iddo oedd
Bu yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Tua'r flwyddyn 1708 yr oedd yn llyfrgellydd Amgueddfa Ashmole, Rhydychen, ac yn 1713 yn is-ysgrifennydd y Royal Society, Llundain. Yn 1719 graddiodd yn M.D. yn Aberdeen. Cesglir mai ei gysylltiad ag Aberdeen a arweiniodd rai o awdurdodau'r Llywodraeth i gredu ei fod yn cydymdeimlo â dyheadau'r Jacobitiaid; gwyddys iddo orfod gadael Llundain yn sydyn ym mis Mawrth 1722 a bwrw cyfnod cyn mentro dychwelyd. Methodd, fodd bynnag, ag ail-ddechrau ar ei waith fel meddyg yn Llundain a bu raid iddo fodloni ar ddilyn yr alwedigaeth honno yn ei ardal enedigol o hynny ymlaen. Megis yr oedd y tad yn flaenllaw ymysg gŵyr yn nyffryn isaf afon Teifi a oedd yn weithgar yn cynhyrchu llenyddiaeth, felly hefyd yr oedd y mab yn ymddiddori yng ngwaith ei gyfaill Moses Williams ac eraill ar linellau a oedd yn gyffelyb i raddau. Dyna, y mae'n ddiau, sydd yn cyfrif paham yr oedd yn barod i dderbyn tanysgrifiadau (' Subscriptions taken in by Mr. Alban Thomas at the Royal Society's House in Crane-Court, Fleet Street,' Llundain) yn 1719 i'r gwaith - ' Collections of Writings in the Welsh Tongue, to the beginning of the Sixteenth Century, to be printed in several Volumes in Octavo ' - yr arfaethai Moses Williams ei gyhoeddi. Dyfynnir yn W. Wales Hist. Records, vii, 218-9, ddau lythyr a anfonodd o Gastellnewydd Emlyn yn 1738 at Syr Hans Sloane; dywedir hefyd, ibid., 216, iddo gyhoeddi yn 1718 A List of Fellows of the Royal Society of London. Rhydd S. R. Meyrick (The History and Antiquities of the County of Cardigan) hanes sut y bu iddo briodi'r ferch y dymunai Moses Williams ei phriodi; ei ail wraig oedd Margaret Jones, Tyglyn Aeron, Sir Aberteifi, merch siryf sir Aberteifi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.