Ganwyd 1717, mab melinydd Melin Corrwg, Eglwysilan, Morgannwg. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howel Harris, c. 1738. Bu'n ysgolfeistr cylchynol, dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, ac apwyntiwyd ef yn arolygwr y seiadau ym Mro Morgannwg yn 1743. Yr oedd yn un o'r rhai a arwyddodd y neges i'r sasiwn yn 1745 ynghylch ordeinio'r cynghorwyr; cafodd ef a'i gyfaill William Edwards ryw fath o urddiad tua'r un amser gan seiat y Groes-wen. Cadwodd ei gyswllt â'r Methodistiaid, a bu'n wr ar ddeheulaw Harris ym mlynyddoedd cyntaf y rhwyg rhyngddo a Daniel Rowland. Diarddelwyd ef o blaid Harris yn 1752, ac enciliodd gyda seiat y Groes-wen at yr Annibynwyr. Bu farw ar daith bregethu yng Nghwm Rhondda, 16 Rhagfyr 1765, a'i gladdu ym mynwent y Cymer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.