DAVIES, EVAN (1694? - 1770), gweinidog ac athro Annibynnol

Enw: Evan Davies
Dyddiad geni: 1694?
Dyddiad marw: 1770
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan, a bu yn academi Hoxton dan Thomas Ridgeley a John Eames, F.R.S. Gellid meddwl iddo agor ysgol yn Hwlffordd yn 1720, ac ar 5 Mehefin 1723 urddwyd ef yn weinidog eglwys Albany yno. Yn 1741, ar ôl marw Vavasor Griffiths, symudwyd yr ' Academi Gymreig ' i Hwlffordd, i fod dan ofal Davies; ond yn 1743, pan symudodd yntau i ofalu am eglwysi Llan-y-bri a'r Bwlch, unwyd ei academi â'r ysgol a gadwai Samuel Thomas yng Nghaerfyrddin, i ffurfio un sefydliad dan y ddau athro a than nawdd y ddau 'Fwrdd,' y Presbyteraidd a'r Cynulleidfaol. Anesmwyth fu'r cytgord rhwng y Byrddau, ac nid oedd pethau'n dda yn yr academi ei hunan chwaith; yn 1754-5 ataliodd y Bwrdd Cynulleidfaol ei gyfraniad ati; ac yn Hydref 1759 ymddiswyddodd Davies yntau - 'afiechyd' oedd y rheswm a roddwyd, ond tebyg fod achosion eraill mwy sylweddol. Aeth Davies i fugeilio eglwys Billericay (Essex), lle y bu farw 16 Hydref 1770, yn 76 oed. Gellid meddwl mai Calfin cymedrol oedd Evan Davies, o stamp academaidd braidd. Credai Richard Bennett (Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth, 182), ar sail anhysbys, ei fod yn un o garedigion Ymneilltuol bore'r Diwygiad Methodistaidd, ac iddo yn 1737 wahodd Howel Harris i Sir Benfro. A gwyddys o leiaf, oddi wrth lythyr (Trevecka Letter 100; 20 Awst 1737) at Harris gan Rees Davies (1694? - 1767), câr i Evan Davies, fod Evan Davies ar y pryd yn gohebu â Griffith Jones, Llanddowror. Eithr erbyn 1741, sut bynnag, dengys llythyr ganddo at Griffith Jones (Welch Piety, 7 Awst 1741) fod y gwynt wedi troi, a dyddlyfr (NLW MS 5456A ) Thomas Morgan o Henllan, myfyriwr a oedd ar delerau cyfeillgar iawn ag Evan Davies, fod Griffith Jones ac yntau'n cydgynllunio (Mawrth 1744) i atal lledaeniad Methodistiaeth yn ochrau Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.